Mae Prifysgol Caerdydd wedi derbyn bron i £2m er mwyn ymchwilio i Covid hir a rôl y system imiwnedd wrth frwydro afiechyd hirdymor a’r adferiad sy’n dod wedyn.

Bydd y ddwy agwedd yn destun astudiaethau ar wahân.

Daw’r arian gan NIHR i helpu yn y frwydr yn erbyn Covid hir, sef symptomau hirdymor sy’n deillio o Covid-19, gan gynnwys blinder dwys, diffyg anadl, poen yn y frest, y meddwl yn troi’n “niwlog” a phoen yn y cyhyrau.

Dydy hi ddim yn glir eto beth yw effeithiau hirdymor Covid hir, ond mae lle i gredu bod bron i filiwn o bobol yn byw â’r cyflwr yng ngwledydd Prydain erbyn hyn.

Yr astudiaeth gyntaf

Gan ddefnyddio’r arian sydd wedi’i ddyfarnu iddyn nhw, bydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn mynd ati i greu rhaglen hunanreolaeth bersonol i unigolion sydd â Covid hir.

Yr Athro Monica Busse o Brifysgol Caerdydd a’r Athro Fiona Jones o Brifysgol Kingston sy’n arwain y gwaith.

Bydd yr ymchwil yn cymryd dwy flynedd i gyd, a’r gobaith yw creu llyfr, adnoddau digidol a phecyn hyfforddi ar gyfer ymarferwyr sy’n ymdrin ag adferiad.

Bydd y rhaglen yn destun treialon yng Nghymru, Llundain a dwyrain Lloegr yn y pen draw.

“Bydd ein prosiect yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â bywyd ar ôl Covid hir lle mae’r amrywiaeth o broblemau ac ansicrwydd ynghylch sut i’w reoli yn creu anawsterau gwirioneddol i’r unigolion hynny sy’n cael eu heffeithio,” meddai’r Athro Monica Busse.

“Gobeithiwn y bydd ein gwaith yn arwain at fodelau gofal newydd yn dod ar gael yn y Gwasanaeth Iechyd er lles y rhai sy’n byw â Covid hir ledled y Deyrnas Unedig.”

Yr ail astudiaeth

Bydd yr ail astudiaeth, o dan arweiniad yr Athro David Price o Brifysgol Caerdydd, yn ymchwilio i sut y gallai ymatebion diffygiol neu ormodol y system imiwnedd roi hwb i afiechydon yn y corff.

Mae’r ymchwilwyr yn gobeithio creu profion a thriniaethau newydd drwy asesu sut mae’r system imiwnedd yn gweithio, a sut mae’r feirws yn parhau yng nghyrff pobol sydd â Covid hir.

Mae’r ddwy astudiaeth yn cael eu cynnal ochr yn ochr â 13 astudiaeth arall, gan dynnu ar brofiadau cleifion a gweithwyr iechyd er mwyn creu triniaethau, gwasanaethau a dulliau diagnostig newydd ar gyfer Covid hir.

Bydd yr ymchwilwyr yn cydweithio â Chanolfan Dystiolaeth Covid-19 Cymru a Chanolfan PRIME Cymru, ynghyd â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Lincoln, King’s College yn Llundain a menter Diversity and Ability.