Mae’r digrifwr o Lerpwl, Tom O’Connor, wedi marw’n 81 oed.
Dechreuodd ei yrfa mewn clybiau comedi cyn dod yn seren yn y byd teledu wrth ymddangos ar raglenni fel The Comedians ac Opportunity Knocks.
Yn ddiweddarach, fe gyflwynodd e nifer o gyfresi gan gynnwys Crosswits, Name That Tune, Pick Pockets a The Zodiac Game.
Fe fu’n cyflwyno Name That Tune rhwng 1976 a 1983.
Yn nes ymlaen yn ei yrfa, ymddangosodd e yn yr opera sebon Doctors ar y BBC, yn ogystal â’r rhaglen goginio Come Dine With Me.
Yn 2011, roedd e’n gystadleuydd ar y rhaglen gwis Pointless Celebrities, ochr yn ochr â’i ferch-yng-nghyfraith, yr athletwraig Olympaidd Denise Lewis.