Mae gŵyl fwyaf Cymru, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, wedi cadarnhau y bydd hi’n mynd yn ei blaen eleni rhwng Awst 19 a 22.
Roedd hyn yn dilyn amheuon gan gynghorwyr yn ne Powys yr wythnos ddiwethaf y byddai’r ŵyl yn cael ei gohirio.
Mae Gruff Rhys, Gwenno, a Charlotte Church ymysg yr artistiaid o Gymru fydd yn chwarae yno eleni, tra bod Little Dragon, Caribou, Mogwai, a Fontaines D.C. yn arwain y lein-yp.
Bydd modd mwynhau amrywiaeth o gelf, gwyddoniaeth, comedi a llenyddiaeth yn ogystal â cherddoriaeth ar draws y safle ar gyrion Crug Hywel ym Mannau Brycheiniog… cyn belled bod ganddo chi docyn yn barod, achos mae’r holl beth wedi gwerthu allan.
‘Fedrwn ni ddim aros!’
“Am oes roedd hi’n ymddangos fel na fydden ni byth yn ôl yn y caeau gyda’n gilydd,” meddai Fiona Stewart, Rheolwr Gyfarwyddwr a Pherchennog yr Ŵyl.
“Fedra i ddim esbonio faint mae’n golygu i fi, a’r miloedd o bobl sy’n gwneud i’r Dyn Gwyrdd ddigwydd, ei fod yn mynd yn ei flaen. Fedrwn ni ddim aros i weld pobl yn mwynhau’r ŵyl unwaith eto!
“Rwy’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru, a roddodd yr hyder i fi redeg yr ŵyl eleni gan roi cyllid drwy Gronfa Ymateb Covid-19.
“Mae’r Dyn Gwyrdd yn ŵyl annibynnol sy’n cael ei rhedeg gan gwmni bach o Bowys a bydden ni wedi bod mewn trafferthion heb y cymorth hwn.”
Mae tocynnau’r ŵyl eisoes wedi gwerthu allan, ond bydd cyfle i’r cyhoedd brynu tocynnau sydd wedi eu dychwelyd ar ddydd Gwener, Gorffennaf 23 am bump y pnawn.
Bydd rhaid i unrhyw un dros 16 oed sy’n mynychu’r ŵyl ddangos canlyniad prawf covid negatif sydd wedi cael ei wneud o fewn 48 awr cyn cyrraedd, neu ddangos eu bod wedi cael o leiaf ddau frechlyn o leiaf 14 diwrnod cyn cyrraedd.