Mae cynghorwyr yn ne Powys yn poeni na fydd gŵyl gerddoriaeth awyr agored yn cyrraedd gofynion canllawiau Covid, ac yn gorfod cael ei gohirio.
Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi bod yn rhan o’r calendr cerddorol ers bron i ugain mlynedd.
Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal ger Crughywel, ac i fod i ddychwelyd rhwng 19 a 21 Awst eleni.
Mae 25,000 o ymwelwyr yn cael mynychu’r wŷl, gyda’r tocynnau i gyd wedi’u gwerthu.
“Rhaid rhoi canllawiau clir i drefnwyr gwyliau”
“Mae’n ddirgelwch llwyr i mi pam nad oes gan y Dyn Gwyrdd y canllawiau sydd eu hangen gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud penderfyniad deallus ynghylch gŵyl 2021, ychydig o wythnosau cyn y dyddiad sydd wedi’i drefnu,” meddai’r Cynghorydd John Morris, sy’n cynrychioli Crughywel.
“Rhaid rhoi canllawiau clir i drefnwyr gwyliau yng Nghymru cyn gynted â phosib ar beth yw’r rheoliadau a’r gofyniadau y byddai’n rhaid iddyn nhw eu dilyn.
“Mae’r Dyn Gwyrdd yn andros o bwysig i’r economi leol a bywyd diwylliannol Crughywel.
“Byddai gohirio dwy flynedd ar ôl ei gilydd yn cael effaith ddinistriol ar y Dyn Gwyrdd, a hefyd ar nifer o unigolion a busnesau yn Nyffryn Wysg ac ardal y Bannau Brycheiniog.
“Rydyn ni wedi gweld stadia chwaraeon yn llawn yn Lloegr, gan gynnwys capasiti llawn yn Wimbledon, ond torfeydd yng nghae criced Gerddi Sofia yng Nghaerdydd hefyd.
“Ond, dydyn ni dal ddim yn gwybod os fydd y Dyn Gwyrdd – sy’n digwydd tu allan mewn lle mawr eang – yn gallu mynd yn ei flaen.
“Rydyn ni angen sicrwydd cliriach gan Lywodraeth Cymru eu bod nhw’n dilyn agwedd gyson, deg, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon yng Nghymru.”
Daw’r galwadau yn dilyn sylwadau gan Fiona Stewart, sylfaenydd Gŵyl y Dyn Gwyrdd yng nghylchgrawn cerddoriaeth Access All Areas.
Yno, fe wnaeth Fiona Stewart feirniadu’r diffyg amserlen ar gyfer ailagor yng Nghymru a’r annhegwch fod chwaraeon yn cael mynd yn eu blaen ond fod gwyliau cerddorol ddim yn cael.
Rhan o adolygiad 21 diwrnod
“Bydd penderfyniadau am y ffordd ymlaen ar unrhyw lacio pellach mewn cyfyngiadau ar ddigwyddiadau yn digwydd fel rhan o’r broses adolygu 21 diwrnod rheolaidd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydyn ni mewn cysylltiad rheolaidd â threfnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd ynghylch y digwyddiad eleni.”
Dan ganllawiau coronafeirws presennol Cymru ar gyfer “digwyddiadau wedi’u rheoli”, sy’n cynnwys cerddoriaeth fyw tu allan, rhaid cael mesurau rhesymol i sicrhau ymbellhau cymdeithasol.
Y nifer uchaf sy’n cael mynychu digwyddiadau wedi’u rheoli tu allan yw 4,000 yn sefyll, a 10,000 yn eistedd.