Dyma gerdd Ifor ap Glyn er cof am David R Edwards, Datblygu, yr oedd y Bardd wedi ei ddarllen y ystod y gwasanaeth angladd yn Eglwys y Santes Fair, Aberteifi, ddydd Sadwrn diwethaf.

 

Un dau, un dau…  ond gweddw’r gân heb dy lais,

a’r dwrn am y meic yn dynn at dy geg

i gadw’r geirie rhag jengid…

 

Dyrchafol, nid dinistriol

oedd d’onestrwydd Aberteifi,

yn dismoli smache pob bwbach a marlat,

 

A drych ffair oedd dy ddychymyg