Mae mam fentrus o Abertawe wedi cael hwyl arni ers rhoi’r gorau i fod yn fydwraig er mwyn canolbwyntio ar ei busnes yn creu llwyau caru cain, ac yn eu hanfon i gwsmeriaid yn America a Seland Newydd…

Mewn sied yn yr ardd yn ei chartref yn Abertawe mae Ceini Spiller yn crefftio ei llwyau caru cain, “ac os ydy’r haul yn gwenu mi fydda’ i jest yn mynd â bwrdd a gweithio tu allan”.