Mae Newyddion S4C yn adrodd y bydd pennaeth y sianel, Owen Evans, yn gadael ei rôl fel Prif Weithredwr y sianel yn fuan.

Yn ôl adroddiad yn y Western Mail, bydd yn gadael i ymuno ag Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru.

Ymunodd Mr Evans â S4C ym mis Hydref 2017, a chyn hynny roedd yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Digidol

Mae ochr ddigidol y sianel wedi cael ei datblygu yn ystod cyfnod Mr Evans gyda’r sianel, gydag S4C yn datgan bod gwasanaeth ar alw S4C Clic wedi cyrraedd 100,000 o danysgrifwyr o fewn chwe mis ym mis Chwefror 2020.

Fodd bynnag, daw hyn ar ôl i Gadeirydd S4C, Rhodri Williams, ddweud y llynedd fod y sianel genedlaethol “ar ei hôl hi o ran darpariaeth ddigidol” a’i bod wedi methu “dygymod â’r her o benderfynu pa fath o wasanaethau mae’n bosibl eu darparu nhw ar y sgrîn deledu draddodiadol, a pha wasanaethau sydd yn well yn cael eu darparu ar lwyfannau digidol gwahanol.”

Bydd Owen Evans yn ymuno ag Estyn fel Prif Arolygwr, medd y Western Mail – penodiad a fydd angen sêl bendith y Frenhines cyn ei fod yn swyddogol.

Mae golwg360 wedi gofyn i S4C am ymateb, ond nid oeddent am wneud sylw am y tro.

Ariannu

Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart AS, wedi dweud y bydd penderfyniad “yn fuan iawn” ynglŷn â chyllideb S4C at y dyfodol.

Dywedodd Mr Hart y byddai penderfyniad yn cael ei wneud cyn diwedd Gorffennaf.

Mae’r sianel yn aros i glywed gan Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y setliad ariannu am y bum mlynedd nesaf.

Yn 2020-21, fe dderbyniodd y sianel £74.5m o ffi drwydded y BBC a £21.85m gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn ôl Simon Hart, mae wedi dadlau achos S4C gyda’r Ysgrifennydd Diwylliant, Oliver Dowden, Aelod Seneddol Hertsmere.

“Ry’n ni’n credu yn y cynnig, ry’n ni’n credu yn y sianel, medd Simon Hart.

“Ry’n ni’n credu ei fod yn chwarae rôl hollol allweddol wrth gwrdd â’r uchelgais ar gyfer yr iaith Gymraeg.”

“Mae ASau o bob plaid wedi gwneud yr achos bod hwn yn gyfrannwr pwysig, eiconig ac arwyddocaol i ddiwylliant Cymru ac i’r iaith yn benodol, ac wedi ceisio perswadio DCMS i edrych ar hwn fel cyfle yn hytrach na chost.”

S4C yn colli slot 104 ar Freeview oherwydd “camgymeriad strategol enfawr”

Angen ei gwneud yn haws i ddod o hyd i gynnwys y Sianel, meddai’r Cadeirydd newydd