Bydd Sesiwn Fawr Dolgellau yn cael ei chynnal yn rhithiol eleni gyda digwyddiadau yn cael eu dangos ar y We ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 17.

Ac mi fydd modd gwylio bandiau Cymraeg ar sgriniau teledu tafarnau’r dref, wedi iddyn nhw ffilmio perfformiadau ymlaen llaw.

Yn hytrach na gŵyl fyw, bydd y Sesiwn yn troi at blatfform digidol AM i ddangos perfformiadau sydd wedi eu ffilmio o flaen llaw.

Ymysg y bandiau yn perfformio mae VRI, I Fight Lions, Glain Rhys, Derw, Beca a Huw Dylan, a bydd sesiynau comedi a llên hefyd i’w gweld.

Mae’r holl gynnwys wedi ei recordio yn rhai o leoliadau amlycaf tref Dolgellau, fel canolfan werin Tŷ Siamas a llond llaw o dafarndai’r dref.

I gefnogi’r busnesau lleol, bydd yr ŵyl hefyd yn gwerthu bocsys o ddanteithion a nwyddau arbennig i nodi’r achlysur.

‘Golygu lot i bobl yr ardal’

“Dw i’n falch iawn bod yna rywbeth yn digwydd er mwyn gallu cynnal y bwrlwm gwerinol a celfyddydol ac ati,” meddai Swyddog Datblygu’r ŵyl, Arfon Huws wrth golwg360.

“Rydan ni’n mynd ers bron iawn i 30 mlynedd, ac mi fydd [dathlu’r pen-blwydd yna yn] digwydd flwyddyn nesa gobeithio.

“Rydan ni’n hapus iawn bod yna rywbeth sydd yn cyfleu a chynrychioli Sesiwn Fawr fel y mae hi fel arfer, a gallu cynnig rhywbeth i bobl sydd yn mynd i fod yn atyniadol.

“Mae o’n golygu lot i bobl yr ardal a’r perfformwyr bod yna rywbeth i edrych ymlaen ato.”

Trefnu’r lleoliadau

“Mae Tŷ Siamas yn lle naturiol iawn i gynnal digwyddiadau ac i gynnal y bwrlwm gwerin, ond rydan ni wedi defnyddio lleoliadau tu allan ac mewn tafarndai ac ati,” eglura Arfon wrth drafod lleoliadau’r perfformwyr eleni.

“Mae’n dda bod y tywydd wedi bod yn ffafriol ar adeg y ffilmio hefyd.

“Doedd dim cymaint â hynny o gyfyngiadau tra roedden ni’n ffilmio – yr unig beth oedden ni’n gorfod gwneud yn amlwg oedd cadw pellter a sicrhau glanweithdra.

“Roedd pawb yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r digwyddiad ac yn cydymffurfio efo’r gofynion.

“Roedd pethau’n gweithio’n dda iawn.”

‘Neis cael chwarae efo’r hogia eto’

Cyn recordio perfformiad ar gyfer y Sesiwn rithiol eleni, doedd y band I Fight Lions heb berfformio gyda’i gilydd ers gwneud sesiwn byw ym mis Tachwedd y llynedd.

“Mae o’n od o beth achos dydy o ddim cweit yn berfformiad byw heb gynulleidfa, ond mae’n neis – yn amlwg – a neis cael change,” meddai Hywel Pitts, prif leisydd y grŵp.

“Achos bod o’n pre-recorded, roedd yna fwy o ryddid i wneud camgymeriadau! Ond na, roedd hi’n neis cael chwarae efo’r hogia eto.”

Mae Hywel hefyd yn gwneud sesiwn gomedi yn yr ŵyl, a soniodd ychydig am y profiad o ffilmio hynny heb gynulleidfa.

“Mae o’n anghyffyrddus i ffilmio! Ro’n i yn y llofft sbar yn tŷ fi jest yn canu mewn i ffôn heb neb yna i chwerthin.

“Ond dw i’n edrych ymlaen at yr ymateb. Gobeithio bydd pobl yn joio!”

Ariannu’r ŵyl

Heb gynulleidfa fyw yn talu am docynnau eleni, roedd angen i’r trefnwyr ganfod ffyrdd eraill o ariannu’r ŵyl.

“Rydan ni wedi cael cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru i gynnal hyn, mewn cyfnod lle mae yna lawer iawn o wyliau yn methu cynnal eu hunain am wahanol resymau,” eglura Arfon Huws.

“Wnaethon nhw weld bod angen rhywbeth i gefnogi’r ŵyl o’r cais a gynigwyd iddyn nhw

“Wrth gwrs, roedd yn rhaid inni ddangos ein bod ni’n cadw rheolau Covid mewn golwg.”

Ar drothwy’r 30

Bydd yr ŵyl yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed yn 2022, ac mae Arfon Huws a gweddill y pwyllgor yn edrych ymlaen at hynny.

“Yn amlwg, rydan ni wedi bod yn trafod beth yr ydan ni’n debygol o allu ei wneud.

“Rydan ni’n rhagweld y bydd yna ŵyl dipyn mwy nag sydd wedi bod yn ddiweddar, ac rydan ni’n trio meddwl beth ydi’r ffordd orau i gynnal y digwyddiad gyda chefnogaeth pobl a busnesau Dolgellau, yn ogystal â chynnig arlwy amrywiol o artistiaid a pherfformiadau.”

Bydd holl arlwy’r Sesiwn Fawr yn cael ei ryddhau yn rhad ac am ddim am 12 o’r gloch ddydd Sadwrn, Gorffennaf 17.

Bydd y cynnwys ar gael drwy sianel AM y sesiwn, sef www.amam.cymru/sesiwnfawr