Mae’r cynlluniau i droi’r hen Eglwys Santes Fair ym Mangor yn ganolfan newydd i blant a phobl ifanc wedi cyrraedd y cam nesaf.

Mae cwmni theatr Frân Wen, sy’n gyfrifol am y prosiect, yn dweud mai pwrpas y lleoliad newydd yw bod yn “hwb gelfyddydol, diwylliannol a chymunedol.”

Bydd diwrnod agored ar y safle ar Ffordd Garth ar ddydd Iau, Gorffennaf 29, i rannu’r cynlluniau gyda’r cyhoedd, sy’n cynnwys gofod perfformio, stiwdio fechan, swyddfeydd a llefydd cymdeithasu.

“Rydym yn deall pwysigrwydd yr adeilad hanesyddol yma i’r gymuned leol felly mae’n hynod o bwysig i ni roi’r cyfle yma i bobol ddod i weld yr adeilad cyn i’r gwaith datblygu gychwyn,” meddai Nia Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Frân Wen.

Manylion y digwyddiad

I fynychu’r digwyddiad, rhaid cofrestru ar-lein neu dros y ffôn o flaen llaw, a dewis slot rhwng 11yb a 7yh.

Bydd y digwyddiad agored yn unol â chyfyngiadau Covid-19, gyda niferoedd penodol yn cael mynychu pob slot.