Fe fydd rhai o brif fandiau ac artistiaid y label I Ka Ching yn perfformio yn Gig y Pafiliwn eleni i nodi pen-blwydd y label yn ddeg oed eleni.

Bydd yr artistiaid yn cael cyfle i berfformio gyda Cherddorfa’r Welsh Pops nos Iau, Awst 5 am 9yh, gyda’r DJ Huw Stephens yn cyflwyno’r noson.

Yr artistiaid fydd yn perfformio eleni yng Nghanolfan Pontio ym Mangor yw Blodau Papur, Candelas, Clwb Cariadon, Glain Rhys, Griff Lynch, Mared, Siddi, Sŵnami, Y Cledrau ac Yr Eira.

Mae pob un o’r artistiaid wedi bod â chysylltiad â label I Ka Ching dros y degawd diwethaf.

Er mai’n rhithiol fydd y gig eleni, bydd yn cael ei ffrydio i bedair canolfan ar draws Cymru.

Mae tocynnau i wylio’r gig yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Canolfan Pontio Bangor, Neuadd Ogwen Bethesda a Chanolfan Chapter yng Nghaerdydd ar werth fore heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 19) am 10yb.

Mae cyfle hefyd i wylio’r gig yn rhad ac am ddim o adre’ ar wefan yr Eisteddfod a sianel YouTube yr ŵyl, a bydd y gig yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru am 9:30 ar y noson.

“Eiconig”

“Ry’n ni fel criw label recordiau I Ka Ching ar ben ein digon i gael dathlu ein pen-blwydd yn ddeg oed mewn gig mor uchelgeisiol â hyn, sy’n clymu deg o artistiaid gorau’r sin gerddoriaeth gyda Cherddorfa’r Welsh Pops,” meddai Branwen Williams o I Ka Ching.

“Ry’n ni i gyd yn gwybod pa mor eiconig fu gigs y Pafiliwn yn y gorffennol, ac mae cael curadu un yn arbennig i artistiaid I Ka Ching yn sicr yn teimlo fel dathliad a hanner.”

Mae mwy o fanylion ar sut i archebu tocynnau ar wefan yr Eisteddfod.