Bydd y sioe Caeredin “newidiodd yrfa” Steffan Alun yn cael ei llwyfannu yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd nos Wener (Gorffennaf 23), ac mae’n trafod rhai o bynciau mawr y Gymru gyfoes.

Yn sgil y pandemig Covid-19, mae’r sîn gomedi, fel y celfyddydau yn gyffredinol, wedi cael blwyddyn a hanner eithriadol o anodd ond mae’r digrifwr o Abertawe’n teimlo, ers gigio eto’n ddiweddar, fod yna ysfa yn sicr am gomedi ymhlith cynulleidfaoedd unwaith eto.

“Y peth gyda chomedi, fi’n credu taw’r rheswm mae pobol yn joio stand-yp yn enwedig yw bo nhw’n lico dau beth – maen nhw’n lico gadael sioe yn teimlo’n hapus a llawen, a dyna’r peth neis am gomedi yw bo ti’n gwybod bo ti’n mynd i adael ar ben dy ddigon,” meddai.

“Ond hefyd, gyda stand-yp ac yn enwedig sioe fel hon sy’n sioe eitha’ personol, mae’n ddoniol ac yn llawn jôcs ond mae hefyd yn sioe bersonol lle wyt ti’n teimlo cysylltiad gyda’r person, yn clywed un person yn rhoi eu safbwynt nhw mor hir â hynny.

“A fi’n credu i ni i gyd, ar ôl cyfnod mor hir o fod yn styc yn y tŷ ar ein pennau’n hunain neu gyda’n teuluoedd, mae’r syniad yna o fynd ma’s a chysylltu gyda phobol, nid jyst gyda’r person ar y llwyfan ond gyda’r gynulleidfa o dy gwmpas di hefyd, fi’n credu bod yna ddim teimlad gwell nag eistedd mewn stafell yn llawn dieithriaid a bo chi i gyd yn chwerthin ar yr un peth ar yr un pryd.

“Mae hwnna’n rywbeth sy’n ein cysylltu ni.”

Rhyw a rhywioldeb

Mae S Club Steffan yn mynd â’r gynulleidfa ar daith i fyd y Cymro Cymraeg, i fyd diwylliant poblogaidd sy’n cynnwys S Club 7, Steps a Bonnie Tyler, ond hefyd yn trafod thema fwy dwys a difrifol ac un sy’n sicr wedi bod yn destun trafod ymhlith Cymry Cymraeg a di-Gymraeg yn ddiweddar.

“Thema fawr y sioe yw rhywioldeb,” meddai’r digrifwr sy’n ddeurywiol.

“Roedd hynna’n gyfrinach pan wnes i’r sioe lan yng Nghaeredin achos fi’n lico’r syniad bod pobol yn dod i’r sioe ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

“Ond dyma’r sioe lle ro’n i’n trafod bod yn ddeurywiol ac yn enwedig bod yn ddeurywiol  fel Cymro Cymraeg gafodd ei fagu yn y ’90au.

“Felly mae lot o stwff am ddiwylliant Cymru, ddim jyst y Gymraeg ond yn naturiol mae’n cynnwys y Gymraeg.

“Er enghraifft, fi’n sôn am y ffaith fod aelodau Cymreig o’r band Steps, fi’n sôn am Huw Edwards a Bonnie Tyler, fi hefyd yn sôn am y meddylfryd Cymreig sy’n bodoli ac wedyn fi’n edrych ar hwnna ochr yn ochr â’r agwedd sydd gyda ni yn y byd at ryw a rhywioldeb.

“Fi’n sôn am raglen o’r enw Naked Attraction, er enghraifft, fi’n sôn am gerddoriaeth pop a fel mae e’n cyd-fynd gyda rhywioldeb.

“A wedyn fi hefyd yn sôn am fy siwrne i fel rhywun oedd ddim yn gyhoeddus am fy rhywioldeb ac mae trafodaeth yn y sioe am sut ddes i i sylweddoli, ddim jyst fy rhywioldeb fy hun ond pwysigrwydd, i fi, bod yn gyhoeddus am y peth.”

‘Dyw e ddim yn fyd rhwydd i fod yn ddeurywiol’

Ai mynegiant, felly, o frwydr bersonol Steffan â’i rywioldeb yw’r sioe hon, tybed?

“Mi oedd e’n pwyso arna’i tu ôl y llen yn fy mywyd personol,” mae’n cyfaddef.

“Mae yna agwedd bersonol… efallai bod brwydr bersonol yn gallu bod yn air… ’dyw e ddim yn fyd rhwydd i fod yn ddeurywiol, dyw e ddim yn fyd rhwydd i fod yn unrhyw fath o LGBT ar hyn o bryd.

“Mae yna dal ffordd bell i fynd i gael derbyniad llwyr ond wedi dweud hynny, yn fy mywyd i, dwi heb stryglo gormod.

“Fi’n lwcus iawn bod gyda fi deulu a ffrindiau agos da, cryf, a fi yn teimlo bod y gymuned Gymreig fi’n rhan ohoni’n agored iawn eu meddyliau ac agored iawn eu calonnau hefyd, felly o ran y sioe ei hunan, beth oedd yn bwysig i fi oedd fod y sioe yn cyfleu ochr bositif y peth.

“Er bo fi wedi stryglo’n bersonol yn fy mhen, yn y byd go iawn mae e wastad wedi bod yn beth positif.

“Mae fy rhywioldeb yn golygu bo fi wedi creu a chwrdd â ffrindiau agos. Fi’n credu bod e’n rhoi dwyster a dyfnder a mwy o ystyr i’r perthnasoedd sydd gyda fi. Mae pob perthynas sydd gyda ti yn dy fywyd yn gwella wrth bo ti’n onest gyda ti dy hun. Dyna beth fi’n ffeindio o ’mhrofiad personol i.

“Os nag wyt ti’n gyhoeddus am dy rywioldeb, mae yna ran ohonot ti wastad yn teimlo bo ti’n cuddio rhan ohonot ti dy hunan.

“Weithiau, mae rhai pobol yn dal hyd heddi yn gorfod bod yn breifat am y peth, ond fi’n teimlo’n lwcus iawn bo fi wedi gallu bod yn gyhoeddus ac mae hwnna wedi bod yn beth positif iawn.

“Mae’r ffrindiau sydd gyda fi yn Gymraeg yn bobol garedig, llawn cariad, llawn derbyniad, llawn dealltwriaeth.

“Ond fi yn ymwybodol bod fy sefyllfa i’n wahanol i sefyllfa rhai pobol eraill. Mae rhai eraill o’r gymdeithas Gymraeg, fi’n credu, yn enwedig ar hyn o bryd… a man a man i fi ei ddweud e… Lle ydyn ni fel gwlad ar hyn o bryd?

“Wrth gwrs, y sgwrs fawr ry’n ni’n ei chael ar hyn o bryd yw o ran annibyniaeth. Fi’n credu, wrth drafod annibyniaeth, ry’n ni hefyd yn sôn am ba fath o Gymru ry’n ni’n chwilio amdani  a fi yn credu ei bod hi’n amser i ni gael sgwrs go iawn am greu Cymru bositif, llawn cariad, llawn derbyniad.”

Sioe wahanol yn 2021 o’i chymharu â 2018?

Gyda hynny o gefndir, sut mae’r sioe wedi newid ers ei llwyfannu gyntaf, a sut dderbyniad mae Steffan yn disgwyl iddi ei chael dair blynedd yn ddiweddarach?

“Newidiodd y sioe hon fy ngyrfa i’n llwyr,” meddai wrth edrych yn ôl.

“Ro’n i wedi bod yn gwneud comedi, fwy neu lai, ers tair blynedd a hanner. Dyna lle o’n i’n ennill fy mywoliaeth. Ond ti’n sôn brwydro am fywiolaeth, byw ar y trên hala e-byst a manteisio ar bob cyfle. Dyw e ddim yn job sy’n talu lot fawr pan wyt ti ar dy ffordd lan.

“Ar ôl y sioe yma, yn sydyn, agorwyd lot o ddrysau, ddim, sai’n credu, achos bod pobol yn chwilio am bobol LGBT, fi actually yn credu bod y gwrthwyneb yn wir. Fi’n credu’i fod e’n dal yn anoddach os wyt ti’n LGBT i gael gigs.

“Ond hon wnaeth fi’n well ddigrifiwr. Roedd yn golygu bod pobol yn cysylltu mwy gyda fi achos ro’n nhw’n gweld ochr authentic, onest i fi.

“Mae yna rannau o’r sioe fi dal yn gwneud heddi, os ’yf fi’n perfformio mewn gig penwythnos o flaen cynulleidfa feddw, mae yna rannau o’r sioe hon sy’n dal yn gweithio.

“Fi’n sôn am Naked Attraction, Steps, S Club 7. Mae e’n ddiddorol faint mae pobol yn cysylltu gyda’r pynciau hyn, a hefyd yr ochr Gymreig i’r peth.

“Mae rhai elfennau fyddet ti ond yn gallu eu gwneud mewn sioe. Gyda sioe awr o hyd, ti’n gallu mynd i bach o ddyfnder, ond mae yna rannau eraill sy’n gweithio yn unrhyw le.

“Fi’n dwlu ar wneud y stwff Cymreig. Mae yna straeon am bobol yng Nghymru yn cwrdd â selebs, sydd mor ddiddorol i fi achos fi’n credu bod agwedd Cymry Cymraeg at selebs a’r Cymry di-Gymraeg at selebs, hyd yn oed, mor wahanol i’r diwylliant selebs sy’n bodoli yn Lloegr hyd yn oed, heb sôn am weddill y byd.

“Agorodd y sioe hon lwyth o ddrysau i fi ac fe wnaeth e wir newid fy mhrofiad i. Bellach, fi’n teimlo bod gyda fi yrfa lot fwy cadarn. Mae mwy o ddewis gyda fi o ran pa gigs fi eisiau gwneud. Does dim rhaid i fi fynnu pob gig sy’n cael ei gynnig. Fi’n gallu bod bach yn fwy snobyddlyd pa rai fi’n eu derbyn!”

Edrych yn fwy hirdymor na “blwyddyn gomedi”

Mae’r sioe, a’r flwyddyn a hanner diwethaf, hefyd yn adlewyrchu newid agwedd Steffan at “flwyddyn gomedi”, hynny yw y cyfnod hwnnw rhwng sioeau Caeredin pan gaiff un sioe ei rhoi o’r neilltu a’r nesa’ ei pharatoi a’i hymarfer am y deuddeg mis nesaf.

“Sa i wedi perfformio’r sioe hon yn union fel mae hi ers Mai 2019,” meddai.

“Wnes i roi’r sioe heibio, dyna o’n i’n arfer gwneud. Bydden i’n gwneud sioe, yn mynd â hi i Gaeredin, mynd ar daith ar ôl hynny a wedyn, dyna fe, roedd y sioe yn cael ei hymddeol.

“Ond ar ôl y pandemig, wnes i ddim Caeredin llynedd a fydda’i ddim yn gwneud eleni chwaith, felly fi eisiau troi hwnna’n beth positif a dweud, wel mae gyda fi sioeau gafodd ymateb gwych a ’dyw pawb ddim wedi’u gweld nhw.

“Fi, hyd heddi, yn cael pobol yn gofyn ‘Oes yna gopi ar gael? Wnest ti ffilmio’r sioe yma?’

“Wel, dwi ddim yn ffilmio nac yn rhyddhau’r sioeau fel arfer achos y profiad byw yw diben neu bwrpas y peth, felly mae’n rhaid bod yna bobol sydd eisiau gweld y sioe sydd ddim wedi cael y cyfle.

“Mae’r pandemig wedi creu cyfle fan hyn, fi’n credu, i fi feddwl yn fwy gofalus beth fi eisiau ei berfformio a beth fi eisiau ei wneud.

“Felly yn hytrach nag ymateb yn llwyr i’r flwyddyn gomedi fel sy’n cael ei diffinio gan Ŵyl Caeredin – y fformat yw bo ti’n dechrau sgwennu sioe ym mis Medi a ti’n cwpla perfformio’r sioe ym mis Awst canlynol, bron fel blwyddyn ysgol – fi eisiau dechrau meddwl yn fwy hirdymor na hynny ac yn hytrach na byw o flwyddyn i flwyddyn, meddwl beth sydd gyda fi i’w gynnig, beth mae pobol yn hoffi gen i.”

Dyma’r tro cynta’ iddo fe berfformio ar lwyfan theatr yn hytrach nag ystafell dipyn llai, ac mae’n cydnabod pwysigrwydd cael cefnogaeth y lleoliad i wneud hynny.

“Fi’n dwlu ar y ffaith bo fi wedi cael y gefnogaeth hon fel rhywun sydd yn perfformio ac yn byw ac yn bod yn Abertawe, byth wedi symud, mae lot o bobol yn mynd i Lundain ac yn gadael Cymru. Fi ddim eisiau gadael Cymru.

“Mae’n bleser cael y gefnogaeth yna gan y theatrau mawr, sy’n gallu bod yn hynod gystadleuol.”

Cefnogaeth

A sôn am gefnogaeth, Eleri Morgan o Aberystwyth yw’r act cynorthwyol ar y noson.

“Ni wir yn Gymry Cymraeg o’n cymunedau Cymreig,” meddai Steffan.

“Cymunedau gwahanol iawn, fi o Abertawe a chafodd hi ei magu ar fferm yng Ngheredigion, ond mae hi yn rhywun aeth i Lundain ac mae hi ’nôl nawr yn byw yng Nghaerdydd.

“Y gair sydd mor bwysig i fi am hyn i gyd yw cymuned. I fi, mae’r gymuned Gymraeg yn bwysig. Mae’r gymuned LGBT mor bwysig. A hefyd y gymuned gyffredinol o’n cwmpas ni, bo ni’n rhannu stafelloedd gyda nhw, y bobol sy’n sefyll ar yr un trên â ni, y bobol sy’n teithio ar yr un bws â ni.

“Fi’n credu bo ni wedi meddwl lot am hyn yn y flwyddyn a hanner diwetha’ ac ry’n ni wedi meddwl am ba gyfrifoldeb sydd gyda ni i’n cymdogion.

“Dyna’n sicr fi wedi gweld gyda gigs comedi. Maen nhw lot yn neisach, ’dyw pobol ddim yn heclo, mae llai o bobol yn edrych ar eu ffôn yn ystod y sioe, mae pobol jyst mor gyffrous o gael y cyfle i fod ’nôl yn gwylio rhywbeth unwaith eto.”

Perfformio yng Nghaeredin “fel Groundhog Day” i Steffan Alun

Steffan Alun o Abertawe’n dychwelyd i’r ŵyl gomedi am y trydydd tro