Byd natur sy’n ysbrydoli’r artist print Ruth Thomas, sydd wedi ymgartrefu yn Llandyrnog , Sir Ddinbych, ers dros ddeng mlynedd.

Astudiaethau o adar a phlu yw mwyafrif ei gweithiau sydd i’w gweld ar hyn o bryd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Brain, gwenoliaid, titws, gwylanod – yr adar hynny sy’n hedfan o gwmpas ei chartref. Eithriad yw ei hastudiaethau o’r haid o fôr-wenoliaid bach sy’n nythu draw yn Sir y Fflint.