Go brin fod yr un araith fawr wedi creu cyn lleied o argraff ag un ‘lefelu’ Prif Weinidog Prydain. Yn ôl Ifan Morgan Jones, y broblem oedd math o dwpdra … dangos maint problemau’r Undeb ac wedyn cynnig dim …
“Petach chi’n Brif Weinidog Unoliaethol pan oedd platiau tectonig eich cenedl-wladwriaeth yn gwahanu o dan eich traed, efallai y byddech chi’n meddwl ei fod yn annoeth dangos yr achos tros annibyniaeth ac wedyn peidio â chynnig ateb Unoliaethol cry’ i’r broblem honno. Mi ddisgrifiodd Boris Johnson y broblen yn blaen, ond nid yr ateb. A nes y bydd yr Unoliaethwyr yn cynnig un, mi fydd symudiadau annibyniaeth ar draws y Deyrnas Unedig yn parhau i ffynnu.” (nation.cymru)
Yn ôl John Dixon, mi fuodd llawer o ASau Ceidwadol yn dwp hefyd wrth dderbyn addewidion y Llywodraeth a throi cefn ar y gwrthryfelwyr yn erbyn toriadau cymorth tramor …
“Pan ddaeth y bleidlais… mi ddaeth yn amlwg bod llawer o’r rhai… oedd yn mynd i wneud safiad egwyddorol… yn methu rhifo, yn ogystal â bod yn ddiegwyddor, gan adael iddyn nhw gael eu prynu gan addewid mai ‘tros dro’ oedd y toriadau ac y byddai’r cymorth yn cael ei adfer pan fyddai cyllideb dydd-i-ddydd y Llywodraeth yn ôl yn y du… Yn ôl yr adroddiad yma gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin, ‘Ers 1970/71, dim ond mewn chwe blynedd y mae’r Llywodraeth wedi bod yn y du…y tro diwetha’ yn 2000/01’.” (borthlas.blogspot.com)
Wrth ddychwelyd at ei hoff bwnc diweddar – helbulon mudiad annibyniaeth YesCymru, mae Royston Jones yn awgrymu bod twpdra o fewn y mudiad hwnnw hefyd …
“Yn y bôn: roedd yna gynllwyn i feddiannu YesCymru. Fe gafodd ei greu gan… Farcswyr ac eraill sy’n perthyn i’r Chwith Eithaf… wedi eu hwyluso i ryw raddau gan ffyliaid sy’n credu bod Comiwnyddiaeth yn ‘cŵl’, rhai’n rhy dwp i werthfawrogi’r peryg ac eraill a oedd jyst yn rhy wan i wrthsefyll o gwbl. Fethodd y cynllwyn oherwydd bod gormod o bobol yn rhan ohono fe: rhai heb fod yn ddisglair iawn ac wedi gollwng y gath o’r cwd, eraill mor sicr eu bod ar ochr yr angylion nes brolio am eu rhan.” (jacothenorth.net/blog)
A hen, hen dwpdra yw syniad Saeson nad oes bron ddim llafariaid yn yr iaith Gymraeg. Mae Dr Rodolfa Pikorski yn rhoi pennod ac adnod i brofi’r pwynt …
“Llafariaid ydi 43% o Gymraeg llafar ac ysgrifenedig, tra bod Saesneg yn amwrywio rhwng 39% ar lafar a 41% ar bapur. Mae’r cyhuddiad dim-llafariaid yn ddi-sail ac yn deillio fwy na thebyg o gamddealltwriaeth o sillafu Cymraeg, diffyg ymwybyddiaeth o sŵn y Saesneg ac, yn y pen draw, dryswch ynghylch natur llafariaid.” (nation.cymru)
Mewn gair dau lafariad felly – twpdra.