Yn hanu o Affrica ac wedi ymgartrefu yng Nghymru, mae N’famady Kouyaté yn creu cerddoriaeth wych sy’n llawn egni ffynci.

Mae’r cerddor 29 oed newydd ryddhau ei EP gyntaf, Aros i Fi Yna, gyda chwmni recordiau Libertino, ac mae hi’n glincar sy’n cyfuno bîts ac alawon Affricanaidd gyda’r iaith Gymraeg.

Ers dod i Gymru a pherfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2018, mae N’famady wedi bod yn dysgu siarad Cymraeg ac i’w glywed yn canu yn Iaith y Nefoedd ar ei EP.

Mae yn gallu siarad Ffrangeg a Saesneg hefyd, ac ar Aros i Fi Yna mae’n canu yn ei famiaith, sef Mandingue.

Fe gafodd ei fagu yng ngwlad Guinea Conakry sydd ar arfordir gorllewinol Affrica, yn gartref i dros 12 miliwn o bobol, a Ffrangeg yw’r iaith swyddogol yno – ond mae degau o ieithoedd brodorol i’w cael.

Ac mae gan y wlad draddodiad cerddorol gyfoethog a chafodd N’famady ei fagu i gyfeiliant y balafon, sef math o seiloffon traddodiadol Affricanaidd sy’n swnio’n hudolus.

A’r balafon mae N’famady yn ei chwarae ar Aros i Fi Yna, sy’n cynnwys llwyth o gerddorion yn creu haenau hyfryd o fiwsig sy’n swnio’n Affricanaidd, yn fodern, a jazzy i gyd ar yr un pryd.

Mae’r EP newydd yn cychwyn gyda ‘Aros i Fi Yna’ sy’n bangar o gân gyda’r balafon yn byrlymu arni.

Ar hon mae llais taer N’famady yn canu yn yr iaith Mandingue, a llais adnabyddus Lisa Jên, canwr 9bach, yn cyd-ganu yn Gymraeg ar y gytgan.

Ymysg yr offerynnau eraill mae yna ddryms a bass ffynci, cyrn pres ac allweddellau.

Ac yn goron ar y cyfan, mae ganddoch chi solo gitâr sy’n hollol hyfryd-secsi-gwych!

Mae’r ail drac – ‘Gadael y Dref’ – yn ddarn prudd o gerddoriaeth hiraethus, sy’n cynnwys N’famady a Gruff Rhys yn cyd-ganu – Gruff yn Gymraeg, N’famady yn Mandingue.

Mae hon yn fersiwn fodern, ddwyieithog, o hen gân draddodiadol o famwlad N’famady – ac mae’r canwr yn dweud fod ei deulu a’i gyfeillion gartref wedi gwirioni gyda’i fersiwn newydd.

Ar y gân ‘Balafô Douma’ mae N’famady yn canu am pa mor wych yw cael chwarae’r balafon.

Yn nwylo medrus a chwim N’famady, mae’r balafon yn swnio fel cyfuniad o seiloffon ac offeryn taro – mae’r dyn yn medru chwarae’r alaw a’r bît ar unwaith!

Ar ‘Balafô Douma’, mae’r nodau yn llifo fel afon oddi ar y balafon… ac mae’r gân hefyd yn cynnwys solo gitâr arall sy’n warthus o ffynci!

Mae yna ddarn dramatig tuag at ddiwedd y trac lle mae côr o ferched yn ateb y gri yn llais N’famady.

Yn ogystal â chyd-ganu gyda Gruff Rhys a Lisa Jên, mae’n amlwg bod N’famady wedi casglu criw o gerddorion medrus at ei gilydd i recordio’i EP gynta’.

Awyren o Affrica a syth i’r Steddfod!

N’famady Kouyaté

Cariad ddaeth ag N’famady i Gymru.

Fe syrthiodd mewn cariad gyda Cathryn, y Gymraes sydd bellach yn wraig iddo, pan aeth hi draw i Guinea Conakry ar drip i ddysgu mwy am draddodiadau dawnsio a cherddoriaeth y wlad honno.

Roedd N’famady yn y band oedd yn cyfeilio wrth i Cathryn fod mewn criw oedd yn dawnsio, ac fe ddatblygodd eu perthynas o hynny… hyfryd!

Yn 2018 roedd N’famady draw yng Nghaerdydd gyda Cathryn pan ddaeth y cynnig i fod yn rhan o broject unigryw Carnifal y Môr gan Gruff Rhys, sef dathliad o holl ddiwylliannau gwahanol ardal bae’r brifddinas ar Sadwrn cynta’r Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno.

Yna daeth y cynnig i N’famady chwarae ar rai o ganeuon yr albwm Pang! gan Gruff Rhys, a bu yn teithio gyda’r cerddor ledled Ewrop, cyn dod i ogledd Cymru a chymryd at yr iaith a’r diwylliant.

“Mae yn beth gwych bod gan y Cymry eu hiaith eu hunain, wrth reswm,” meddai, “ac mae gen i fy iaith hefyd, Mandingue.

“A thrwy gymysgu’r ddwy iaith, rydw i wir wedi canfod fy llais cerddorol.”

Bu yn cydweithio gyda Lisa Jên ers dod i Gymru hefyd.

“Roedden ni yn arfer gwneud gigs gyda’n gilydd ym Methesda, tra’n gigio gyda Gruff Rhys… wnes i syrthio mewn cariad gyda phentref Bethesda – lle prydferth iawn!”

Ac mae wedi dod yn ffrindiau mawr gyda Lisa Jên.

“Ers [y gigs ym Methesda] rydan ni wedi dod yn ffrindiau, ac rydw i’n caru ei llais hi, ac mae hi’n hoffi beth yr ydw i’n gwneud, yn chwarae cerddoriaeth gynhenid fy ngwlad ar y balafon.”

Recordio yn Rockfield

Fe gafodd Aros i Fi Yna ei recordio yn stiwdio Rockfield yn Sir Fynwy.

Dyma un o stiwdios recordio enwoca’r byd sydd wedi bod yn fangre i fandiau ENFAWR megis Queen, Oasis, The Manic Street Preachers a The Stone Roses.

A phan mae’r Babell yn gofyn sut brofiad oedd cael mynd yno i recordio, mae N’famady yn chwerthin llond ei fol cyn egluro’r hanes…

“Oherwydd bod gen i fand mawr, roedden ni angen stiwdio go-lew o faint, a dim ond Rockfield oedd yn gallu ein cymryd ni. Felly dyna pam wnes i ddewis mynd yno.

“A minnau yn ddyn o orllewin Affrica, doeddwn i yn gwybod dim byd am hanes Rockfield. DIM BYD!

“A phan wnes i ddweud wrth y band: ‘Bois, mae ganddo ni stiwdio. Rydan ni am fod yn recordio yn Rockfield’…

“Roedd pawb yn dweud: ‘WAW! BETH?!’

“A doeddwn i jesd ddim yn deall yr ymateb, nes iddyn nhw egluro: ‘Hwnna ydy Rockfield, y stiwdio hanesyddol!’

“A doedd gen i ddim syniad… ac roedd o’n brydferth. Pan es i yno, roedd yn wych.”

A beth mae ei deulu yn Guinea Conarky yn feddwl o’r ffaith ei fod yn recordio yng Nghymru, gan greu caneuon Mandingue-Cymraeg?

“Mae fy mam yn hapus iawn, ac mae fy chwiorydd wedi gwirioni efo’r hyn maen nhw yn ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol…

“Cariad a bywyd ddaeth a fi i Gymru… pan mae pobol gartref yn meddwl am Brydain, maen nhw yn meddwl am Lundain.

“Ond rŵan, maen nhw yn sylweddoli bod Cymru yn bodoli, sy’n wych.”

Gigs

Bydd N’famady Kouyaté yn perfformio yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar 4 Awst, a Gŵyl y Dyn Gwyrdd 19-22 Awst.

Ac mae Aros i Fi Yna ar gael i’w ffrydio nawr.