Yn ei chasgliad o waith tecstilau ‘Hiraeth’, mae myfyriwr dylunio yn dwyn i gof ei gwyliau plentyndod yng Nghei Newydd yng Ngheredigion, a gwaith artistiaid fel Gwilym Prichard.

Lois Davies, dylunydd 22 oed o Rydargaeau ger Caerfyrddin, yw enillydd ‘Gwobr Romo ar gyfer Arloesi mewn Dylunio a Lliw’ yn nigwyddiad New Designers 2021. Roedd y beirniaid wedi eu plesio’n arw gyda’r casgliad yr oedd hi wedi ei greu yn ystod blwyddyn olaf ei chwrs ‘Dylunio Patrwm Arwyneb a Thecstilau’ yng Ngholeg Celf Abertawe y Drindod Dewi Sant.

Sail y gwaith oedd project o’r enw ‘Hiraeth’, sef gweithiau tecstilau a gwlân yn cyfleu ei hiraeth am ddychwelyd i normalrwydd yn ystod y pandemig.

“Ro’n i ffaelu credu fe ar y dechre,” meddai Lois Davies wrth drafod ei buddugoliaeth. “Mae e’n eitha’ swreal… O’n i’n ffaelu credu fy mod i wedi fy newis i fynd ymlaen am gyfweliad… a phan wnaethon nhw ei gyhoeddi ar y New Designers Awards, ro’n i’n ffaelu â chredu fe. Ond mae’n bendant mynd i fod yn dda, ac agor dryse i fi yn y dyfodol.”

Mae’r New Designers Awards yn ddigwyddiad blynyddol i dynnu sylw at ddoniau newydd ym myd cynllunio a dylunio, ac mae cwmnïau amlwg yn noddi pob categori. Gwobr Lois yw prentisiaeth am chwe mis yn swyddfa’r cwmni dylunio interiors Romo yn Nottingham, yn dechrau ym mis Medi.

“We were impressed by Lois’ sense of colour and layering of textures” – dyma eiriau beirniaid y New Designers. “Her strong design concept was followed through into a textile collection that was well-rounded and presented beautifully.”

“Y mae’r ffordd mae Lois wedi ailddychmygu a chyfoesi’r cyfeiriadau at ddiwylliant Cymru yn dyst i’w dealltwriaeth bellgyrhaeddol o’r sector dylunio,” meddai Georgia McKie, Cyfarwyddwr Rhaglen Dylunio Arwyneb y Drindod.

Rhan o’i hysbrydoliaeth ar gyfer y casgliad ‘Hiraeth’ yw’r gwead a’r lliwiau yng ngwaith arlunwyr enwog Cymru.

“Fe fydda i yn cymryd ysbrydoliaeth o damed bach o bopeth, yn dibynnu ar y project,” meddai Lois Davies wrth Golwg. “Wrth wneud project ‘Hiraeth’ ro’n i’n cymryd lot o ysbrydoliaeth gan artistiaid Cymreig fel Kyffin Williams a Gwilym Prichard, fel y maen nhw’n ffocysu lot ar dirlun Cymru.

“Mi wnes i gymryd lot o ysbrydoliaeth o hynna a dod ag e mewn i fy nhecstiliau i – lliwiau’r machlud a phethau fel yna. Ro’n i’n edrych ar eu persbectif nhw, yr holl wead a’r lliwiau bold. Ro’n i mo’yn neud hynna, a gweld fy mhersbectif fy hunan, a’i droi yn decstilau.”

Y garthen a’r Cei 

Dylanwad arall amlwg ar ei gwaith yw’r hen garthenni gwlân Cymreig – o wlân mae hi wedi gwneud y darnau.

“Mae’r garthen Gymreig wedi dod mewn i nifer o fy mhrojectau i,” meddai, “achos mae gyda ni rai yn y tŷ, ac mi wnes i fy nhraethawd hir ar decstilau Cymreig hefyd. Nid jyst y carthenni a’r cwiltiau, ond yr hanes. Ailddychmygu’r brethyn wnes i yn y project diwetha’ ‘Hiraeth’ yma. Mi wnes i sawl darn tecstil mas o wlân, a lliwio lot o wlân, yn lliwiau a oedd yn adlewyrchu’r machlud, achos mae hwnna’n hiraethus.”

Gwaith y casgliad ‘Hiraeth’

Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn celf erioed, a dechreuodd ymddiddori mewn cynllunio ar gyfer addurniadau’r cartref ar y cwrs sylfaen Celf yn y coleg yng Nghaerfyrddin.

“Roedden ni’n gwneud lot o addurnau ar gyfer y tŷ, a dyna beth wnes i astudio yn y brifysgol – a dw i’n falch fy mod i wedi. Mae’n gystadleuol ond dw i’n falch.

“Yn y brifysgol, roedd lot o beiriannau gwahanol. Roeddech chi’n gallu mynd lawr unrhyw drywydd roeddech chi mo’yn, serameg ac ati… ond ro’n i’n licio’r ochr decstiliau, a jyst arbrofi gyda lot o ddefnyddiau gwahanol.”

Buodd yn arbrofi â sgrin-brintio a ffeltio â nodwydd (needle punch), a rhoi gwahanol bethau at ei gilydd i greu’r darnau haniaethol fel y rhai sydd yn y casgliad buddugol.

“Os ydych chi’n cyffwrdd ag e, mae yn eich atgoffa o garthen Gymreig,” meddai. “Mae hwnna’n ysbrydoliaeth fawr, y teimlad o hiraeth drwy’r defnydd ei hunain, drwy gyffwrdd.”

Atgofion plentyndod am Gei Newydd, y dref glan môr sydd hanner ffordd rhwng Aberystwyth ac Aberteifi, yw un o’r dylanwadau mawr eraill ar y casgliad ‘Hiraeth’.

Mae’r teulu yn berchen ar dŷ yno ers 1935 a fanno treuliodd Lois ei hafau pan oedd yn blentyn. Bu yno’r llynedd yn sgetsio ac yn tynnu lluniau â chamera, ac aeth ati i ffilmio’i hun yn sgwrsio gyda’i mam am atgofion o’u gwyliau wrth bori trwy hen luniau.

“Ro’n i’n gwneud voice notes a byddwn i’n gwrando ’nôl arnyn nhw, ac yn gwneud fideo – mae un ar YouTube,” meddai Lois Davies. “Roedd y syniadau wedyn yn mynd i mewn i’r tecstilau. Roedd mam yn rhan fawr o’r gwaith… hi oedd yn fy helpu i edrych drwy’r hen luniau, a oedd yn rhan fawr o’r broses ymchwil.”

Rolls Royce

Fe wnaeth Lois waith ar gyfer nifer o brojectau cystadleuol yn ei thrydedd flwyddyn yn y coleg, a oedd yn cael eu noddi gan gwmnïau fel Patternbank a Rolls Royce. Mae projectau fel yma yn rhoi blas i’r myfyriwr o sut brofiad fyddai ateb gofynion brîff arbennig a gweithio o fewn terfynau amser tynn. Ar gyfer cwmni Rolls Royce, roedd yn rhaid iddi ymateb i’r thema ‘transition’, ac ymgorffori ei chynllun ar y car rywfodd.

Dyluniad Lois ar gyfer cwmni Rolls Royce

“Mi wnes i edrych ar dirlun Cymru, a chymryd ysbrydoliaeth o hwnna,” meddai Lois.

“‘Transition’ oedd y thema, (ro’n i’n meddwl) fel ry’n ni wedi bod yn y flwyddyn ddiwetha’, fel ry’n ni wedi bod y tu fewn yn ein tai, a bod natur yn cario ’mlaen tu fas.

“Felly mi wnes i gymryd ysbrydoliaeth o’r tirlun, y Gymraeg, a’r elfen o hiraeth a’r carthenni Cymreig – mae hwnna’n rhywbeth sy’n dod mewn i fy mhroject i eitha’ lot. Mi wnes i roi e y tu fewn i’r car, a’r tu allan. Felly dod â’r tu fas y tu fewn.”

Roedd ymhlith y tri uchaf yn y detholiad yma, a chafodd gyfweliad tua deufis yn ôl, ond nid Lois aeth â hi y tro yma. “Roedd hwnna’n dda iawn, achos roedd e’n eitha’ clou – dim ond pedwar diwrnod gelon ni i wneud e,” meddai. “Roedd e’n eitha’ lot o waith.”

Nawr mae Lois yn edrych ymlaen yn awchus at fynd i Nottingham ym mis Medi a dechrau ar ei gyrfa.

“Mae e’n bendant yn mynd i fod yn dda, ac agor dryse i fi yn y dyfodol,” meddai. “Ro’n i’n dweud wrth Mam mai rhywbeth tebyg i’r profiad gwaith yna dw i am ei wneud y licen i ei wneud. Honna oedd y dream job – mynd i weithio i ryw gwmni yn dylunio addurniadau mewnol fel llenni a phopeth felly.”

Pwy a ŵyr, pan fyddwch chi yn prynu eich Rolls Royce newydd ymhen rhai blynyddoedd, neu yn dewis llenni newydd ar gyfer y lolfa, efallai mai gwaith Lois Davies fydd y dyluniad….