Mae’r sylwebydd ralïo Emyr Penlan yn dweud y bydd ymgais Elfyn Evans i ennill Pencampwriaeth Ralïo’r Byd ar ben pe bai Sébastien Ogier yn ennill ras eto cyn diwedd y tymor. Mae’r Ffrancwr, sydd ar frig y bencampwriaeth ar 148 o bwyntiau, 37 pwynt ar y blaen i’r Cymro, sy’n ail gyda phum ras yn weddill.