Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Y Storïwr gan Jon Gower. Dw i’n perthyn i glwb darllen yn y Barri, a hwn oedd y ‘llyfr gosod’ pan darodd y pandemig. Fe gafodd fynd i’r naill ochr tra fy mod i’n canolbwyntio ar ddarllen sothach (mae pethau rhyfedd yn digwydd mewn pandemig). Mae’r grŵp yn ailgynnull yn fuan, a dw i wedi mynd ati i’w ddarllen eto o’r dechrau. Dw i hefyd ar ganol darllen American Dirt gan Jeanine Cummins.