Artist cyfoes o Sir Benfro yw Ben Lloyd, sy’n ymboeni am ddyfodol y gymdeithas yn ei fro enedigol yn sgîl y twf mawr mewn ail gartrefi.

Yn ei arddangosfa newydd, ‘Gwales’, yn Oriel y Parc yn Nhyddewi, mae Ben Lloyd yn ymdrin â themâu fel dianc, y weithred o anghofio, yn ogystal â’r Mabinogi a’r Gymraeg, trwy gyfrwng cerflunwaith, ffilm a sain.