Yn wreiddiol o dref Bargoed yng Nghwm Rhymni, mae’r actor 27 oed, Aaron William-Davies, yn byw yng Nghaerdydd ac yn rhan o gast y sioe Clera Ceredigion gan Gwmni Theatr Arad Goch ar hyn o bryd…

Pam dewis actio?

Roeddwn i’n eithaf hwyr yn ystyried y peth o ddifrif, i feddwl mai dyma fy ngyrfa i nawr.

Yn fy arddegau hwyr roeddwn i yn gwneud jiwdo a chwaraeon lot, ond rydw i wastad wedi bod ar lwyfan yn perfformio.