Gyda bron i hanner y tai oedd ar y farchnad yn Nwyfor Meirionnydd y llynedd gael eu gwerthu yn ail dai, mae’r Aelod o’r Senedd yno yn dweud bod y sefyllfa yn waeth nag erioed.

Bu tai haf yn daten boeth ers degawdau, ond gyda covid a phobol eisiau dianc o’r dinasoedd mawr, a’r galw am dai yn yr ardaloedd gwledig wedi cynyddu yn arw, mae’r drafodaeth am yr effaith ar Gymru a’r iaith yn chwilboeth.