“Dw i’n gobeithio bydd y lluniau o’r Rali yma yn deffro ein gwleidyddion ni ym Mae Caerdydd.”

Dyna oedd cri’r ymgyrchydd Menna Machreth, a fu’n annerch torf o 1,000 a mwy yn ystod Rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ Cymdeithas yr Iaith ger argae Tryweryn ddydd Sadwrn. “Dyma’r cyfle olaf,” meddai hi am newid sefyllfa’r farchnad dai yn y Gymru wledig. “Mae hi mor braf gweld pobol o bob rhan o Gymru yma heddiw, achos mae hon yn broblem ledled Cymru.”