Erbyn i hwn ymddangos, mi fyddwn ni’n gwybod be ydi penderfyniad Llywodraeth Cymru ynghylch llacio’r cyfyngiadau.

Penderfyniad Llywodraeth Cymru … ond un sy’n anorfod yn cael ei yrru gan y Brawd Mawr dros y Clawdd. Wrth baratoi at ddydd Mercher, doedd gan ein harweinwyr ni ddim dewis rhydd.

Tybed be fydden nhw wed’i benderfynu pe bai Cymru’n wlad annibynnol?