Gwneud hwyl am ben merch fach o’r Almaen a’i galw, ymhlith pethau eraill, yn “hwren”.

Gweiddi a phoeri yn wyneb bachgen naw mlwydd oed o Ddenmarc.

Tynnu menyw wrth ei gwallt am ei bod yn cario baner gwlad dramor.

Codi braw ar gefnogwyr estron drwy eistedd, yn erbyn y rheolau, yn eu plith wrth wylio, a’u bygwth.

Rhacso rhannau cyfain o ganol Llundain.

Dinistrio caffis a thai bwyta mewn gloddest o ymddygiad treisgar a meddw.