Yn y ffilm Moneyball mae Brad Pitt yn chwarae ‘Billy Beane’, rheolwr tîm baseball go-iawn wnaeth helpu arloesi ffordd newydd o ennill gemau. Fi’n lyfio’r ffilm yma (er bo fi byth wedi gwylio gêm o baseball yn fy mywyd) achos mae’n gwneud job anhygoel o amlygu be dw i’n lyfio am chwaraeon – y storïau emosiynol bach sy’n digwydd o amgylch yr actual chwarae.