Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen                                     

Rhywle Fel Hyn gan Dafydd Iwan. Dw i wedi cael y fraint o glywed Dafydd droeon yn sôn am gefndir ei ganeuon mewn nosweithiau hynod ddifyr a hefyd mewn sgyrsiau personol. Mae’n beth braf i’w cael ar bapur i’w darllen. Yn y llyfr cawn gefndir i 19 o’i ganeuon. Wrth gwrs mae gydag e nifer o ganeuon eraill ac rwyf yn edrych ymlaen at ddarllen mwy o gyfrolau tebyg ganddo!