Mae’r awdures Angharad Tomos yn un o wirfoddolwyr menter gymunedol sydd newydd lansio apêl codi arian i adnewyddu adeilad gwag arall yn ei phentref.
Fel pob un arall o’r gwirfoddolwyr mae hi’n byw “dafliad carreg” o adeilad Cymru Fydd ym mhentref Penygroes, gwta saith milltir o Gaernarfon.
Yn 2016 cododd y gymuned dros £50,000 i brynu Siop Griffiths oedd yn arfer gwerthu nwyddau haearn ac ati [ironmongers]. Ac erbyn hyn mae’r hen siop wedi ei droi’n gaffi ac yn llety o’r enw Yr Orsaf.
A pharhau wnaeth mentergarwch pobol Dyffryn Nantlle ac fe brynwyd ail adeilad, sef Y Stablau – er mwyn gallu ymestyn y llety.
Cymru Fydd yw’r trydydd adeilad, ac mae reit drws nesaf i’r Orsaf.
“Beth sy’n ddiddorol ydi mai Cymru Fydd ydi enw’r lle a dw i eisio ffeindio pam – siop lestri oedd hi,” meddai Angharad Tomos.
Mae angen codi £70,000 i adnewyddu Cymru Fydd sydd wedi ei brynu yn enw Siop Griffiths Cyf a gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
“Ein ffocws ni yw pobol ifanc – dyna’r dyfodol,” meddai Angharad gan ychwanegu y bydd modd iddynt ddysgu sgiliau newydd yno a chreu busnesau.
Yn ogystal bydd cyfleoedd i gefnogi pobol i weithio o’r pentref gyda desgiau poeth i’w llogi am gyfnodau byr neu ychydig oriau.
Ers cychwyn y fenter gymunedol yn 2016 “mae’r weledigaeth wedi datblygu ac mae’r Orsaf wedi dod yn rhyw fath o hwb ym Mhenygroes. Mae o’n galluogi pethau eraill i ddigwydd fel caffi trwsio sydd ar fin agor a phrosiect Bwyd a Lles [troi bwyd gwastraff gan y Co-op yn brydau bwyd]. Adeg covid roedd hynny’n bwysig iawn ac roedd gwirfoddolwyr ddwywaith yr wythnos yn dosbarthu’r pecynnau bwyd i bobol oedd eu hangen nhw yn y gymuned.”
Er bod covid wedi arafu’r amserlen datblygu ac adeiladu meddai Angharad: “Mae o hefyd wedi rhoi her i ni ac roedden ni’n gallu ymateb efo’r cynllun bwyd. Ond mae covid wedi gwneud llanast o ran stopio’r gwaith datblygu ac adeiladu.”
Mae menter gymunedol Siop Griffiths yn cyflogi wyth o bobol gyda thri ohonynt dan 23 oed.
Bydd y £70,000 sydd angen ei godi rhwng nawr a chanol mis Medi yn mynd tuag at foderneiddio Cymru Fydd, yn ogystal â chreu lle a phwyntiau gwefru i dri cherbyd trydan y bydd Siop Griffiths yn eu prynu yn y dyfodol agos.
“Mae llun neu gerdyn ’Dolig gan Siop Griffiths o’r flwyddyn 1925 sydd yn dangos dau bwmp petrol o flaen y siop,” eglura Angharad. “Roedden ni’n meddwl ei fod yn dwtsh reit neis ein bod yn rhoi pwynt gwefru car trydan yno. Ac rydan ni’n gobeithio bydd hynny’n denu pobol i mewn i Benygroes – bod yma bwynt gwefru.”
Pan wnaethon nhw gynnal yr apêl gyntaf am arian nol yn 2016, roedden ni’n gofyn i bobol ddangos “ffydd” yn eu mentergarwch, meddai Angharad.
“Ond erbyn hyn gobeithio eu bod nhw’n gweld y weledigaeth yn cael ei gwireddu. Y gobaith ydi y bydd pobol yn cyfrannu rhoddion unwaith eto.”
Mae mwy o fanylion am sut i gyfrannu ar dudalen Facebook Yr Orsaf.
Gyda’n gilydd…
Mae mentrau cymdeithasol mewn dwy ardal chwarelyddol arall yng Ngwynedd wedi bod yn gefn i wirfoddolwyr Siop Griffiths Cyf, eglura Angharad Tomos.
“Mae Antur Bro Stiniog [Blaenau Ffestiniog] wedi bod ysbrydoliaeth gyson i ni. Aethon ni i lawr i’r Pengwern i weld y gwesty cymunedol yno. Ac roedden ni’n meddwl ‘os ydi’r rhain wedi cychwyn o ddim, dydi o ddim yn amhosib i ni chwaith’.”
Fe fydd Angharad “yn dweud yn aml am y criw yna yn Stiniog” meddai’n cyfeirio at aelodau o’r band Anweledig sydd tu ôl i sefydlu sawl menter gymunedol yn eu milltir sgwâr.
“Bod ganddoch chi bobol fel yna sydd wedi aros yn eu cymunedau – criw Anweledig sy’n hanner dwsin ohonyn nhw, yn penderfynu dydan ni ddim am fynd i ffwrdd, rydan ni’n mynd i aros yma.”
Ac mae datblygiadau Partneriaeth Ogwen ym Methesda, ger Bangor, hefyd wedi bod o fudd iddynt ym Mhenygroes.
“Maen nhw wedi cael y ceir trydan yma sydd wedi ein hysbrydoli ni. Maen od bod [ni a nhw] yn ardal llechi a’r ffordd orau i’w ddisgrifio fo ydi ein bod wedi gorfod sefyll ar ein traed ein hunain. Rydan ni wedi bod trwy amseroedd caled ac mae llawer yn gofyn: ‘sut ydach chi wedi cael y gwirfoddolwyr?’ Wel yn yr ardaloedd yma rydan ni wedi gweld y traddodiad yn ein rhieni a chenhedloedd eraill o helpu ein gilydd. Dydi gwirfoddoli ddim yn syniad dieithr – mae helpu ein gilydd yn dod yn naturiol.”
Hanes Siop Griffiths
“Pan ddaeth Siop Griffiths ar y farchnad roedden ni’n meddwl ei fod o’n gyfle rhy dda i’w golli am ei fod yn un o adeiladau hynaf y pentref,” eglura Angharad Tomos wrth Golwg.
Ac roedd hanes i’r lle meddai wedyn: “Felly roedd pawb yn teimlo’n gryf bod eisio cadw’r siop ac fe lwyddon ni i godi’r arian mewn cyfnod byr. Nid jyst pobol y dyffryn wnaeth gyfrannu ond pobol drwy Gymru.”
Mewn cyfarfod cyhoeddus i ofyn barn aelodau o’r gymuned fe ddaeth yn amlwg mai troi Siop Griffiths yn gaffi oedd y dewis poblogaidd, gyda gweithgareddau a chyfleoedd hyfforddi i bobol ifanc.
“Cyn bod yn ironmongers roedd Siop Griffiths yn dafarn yn 1828 ac yn y dafarn roedd posib prynu tocyn i fynd ar y rheilffordd llechi o chwarel Dalysarn i Gaernarfon. Dyna pam rydan ni’n ei galw hi yn Yr Orsaf!” meddai dan chwerthin.
Yn 1925 yr agorodd Siop Griffiths ei drysau gyntaf gan gymryd cyfenw ei pherchennog yn enw ar y siop.
Yn ôl Angharad Tomos, pan fu farw’r Mr Griffiths gwreiddiol daeth ei fab, Thomas Elwyn, yn berchennog.
“Ond Llenyn oedd o’n galw ei hun yn fach, a sticiodd yr enw. Dipyn o gymeriad oedd Llenyn … ac yn 60 oed, doedd Llenyn ddim eisiau gofalu am y siop, a cherddodd allan a gwireddu breuddwyd oes – mynd i deithio.”
Er mwyn ariannu ei awydd i deithio “cafodd job fel courier ar longau pleser P&O, a theithiodd i bob man. Ond be wnaeth o hefyd oedd anfon cardiau post i’r siop,” eglura Angharad.
“Mae Luned Rhys Parri wedi gwneud llun gwych o’r Orsaf – sydd ar y wal yn y caffi – gan ddefnyddio rhai o’r cardiau post gwreiddiol.”