Yn ymchwilydd, awdur, a darlithydd, mae Dr Marian Gwyn yn arbenigo ar hanes trefedigaethol, a chysylltiadau Cymru â chaethwasiaeth.
Wedi gweithio am ddeunaw mlynedd gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y gogledd, lle’r oedd hi’n gyfrifol am ddenu cynulleidfa newydd, aeth hi yn ei blaen i astudio am ddoethuriaeth.
Canolbwyntia ei hymchwil ar yr heriau sy’n wynebu sefydliadau treftadaeth wrth gydnabod sut mae eu heiddo ac arteffactau’n gysylltiedig ag erchyllterau trefedigaethol.
Mae Dr Marian Gwyn bellach yn ymgynghorydd treftadaeth, ac yn arbenigo ar ddatblygu ffyrdd arloesol o rannu’r gorffennol gyda chymunedau.
Cafodd ei magu ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr ger y Trallwng nes oedd hi tua naw oed, cyn i’r teulu symud i bentref Pont-rhyd-y-groes yng Ngheredigion.
“Roeddwn i wrth fy modd yn crwydro o amgylch yr hen fwyngloddiau plwm, ac roedd y pentref wrth ymyl Ystâd yr Hafod ac roedd hi’n hyfryd cerdded drwyddo,” meddai.
Cafodd Ystâd Hafod ei ddylunio yn y ddeunawfed ganrif gan Thomas Johnes, a daeth yn atyniad poblogaidd gydag ymwelwyr oedd yn teithio’r wlad yn chwilio am fyd natur.
“Dw i ddim yn meddwl gall yr un ohonom ni fyw yng Nghymru a pheidio â chael ein hamgylchynu gan hanes.
“Mae gen i ddiddordeb erioed mewn hanes, ond mewn gwahanol fathau o hanes. Mae pob un o fy ngraddau wedi canolbwyntio ar bynciau gwahanol.”
Astudiodd ei gradd gyntaf mewn Hanes Celf a Dylunio yn y brifysgol yn Swydd Stafford, cyn mynd ymlaen i wneud graddau pellach ym Mangor.
“Ar gyfer fy ngradd meistr, archwiliais i sut effeithiodd yr Ail Ryfel Byd ar fywydau gwaith menywod yng Ngwynedd,” esbonia.
“Erbyn i mi benderfynu astudio ar gyfer PhD roedd fy maes ymchwil wedi newid yn llwyr, erbyn yr amser hynny ro’n i wedi bod yn astudio hanes caethwasiaeth yr Iwerydd a gwladychiaeth ers sawl blwyddyn.”
Erbyn hyn, mae Dr Marian Gwyn wedi ymgartrefu ar Ynys Môn, ac wrth dreulio amser yno gyda’i hewyrth yn blentyn taniwyd ei diddordeb mewn safleoedd hanesyddol.
“Roedd fy rhieni o’r ynys, ac roedd y ddau ohonyn nhw wrth eu boddau’n dod yn ôl i’r ynys.
“Dw i ddim yn cofio byth peidio bod â diddordeb mewn hanes a threftadaeth, roedd fy ewythr yn rheithor Niwbwrch ar Ynys Môn am nifer o flynyddoedd.
“Ac roedden ni fel arfer yn treulio’n holl wyliau ysgol gyda fo, a’i deulu, ar Ynys Môn. Roedd o’n hanesydd gwych, ac roedd o’n arfer mynd â ni i gyd, fi a fy chwiorydd, i weld llefydd hanesyddol, llefydd diddorol, a dweud wrthym ni am yr hanes.
“Roedd ganddo lyfrgell wych, ac roeddwn i wrth fy modd yn darllen ei lyfrau ers ro’n i’n hogan fach.
“Daeth fy niddordeb mewn treftadaeth, ac i mi mae hyn yn golygu beth rydyn ni’n ei wneud gyda hanes a safleoedd ac arteffactau hanesyddol yn y maes cyhoeddus, o ddau beth.
“Yn gyntaf, fy mod i’n gwbl ymwybodol fy mod i wedi dysgu gymaint am hanes o ymweld â safle o werth hanesyddol fel plentyn.
“A’r ail beth oedd o weithio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fe wnes i fwynhau fy amser yn fawr iawn.
“Mae gan bob sefydliad ei heriau… ond roedd o, a dw i’n credu ei fod o hyd, yn sefydliad y gallwch chi gael effaith gyda’ch gwaith.
“Rydyn ni’n tueddu i feddwl am yr Ymddiriedolaeth fel sefydliad monolithig enfawr, ond mae gan bob safle gryn ryddid i wneud pethau gwahanol.
“Roeddwn i’n gallu cynnal digwyddiadau, arddangosfeydd, rhaglenni dysgu, a fyddai efallai ddim wedi digwydd yn rhywle arall oherwydd ei fod o ynghlwm â’m diddordeb i mewn hanes anodd, a’r ymchwil ddaru fi ei wneud ar gaethwasiaeth.”
“Roedd yna heriau bob amser,” meddai, ac un o’r pethau mawr oedd nad oedd cefnogaeth i’w gwaith ar gaethwasiaeth a’r Ymerodraeth drwy’r amser.
Mae Dr Marian Gwyn yn un o ysgrifenwyr adroddiad diweddar gan yr Ymddiriedolaeth ynghylch eu heiddo a’r Ymerodraeth, ac mae posib gweld y gwrthwynebiad hwnnw yn yr ymateb cyhoeddus iddo, meddai.
“Tra roeddwn i’n gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth, cefais gyfle i weld y da a’r drwg yn y modd y mae safleoedd hanesyddol naill ai’n ceisio rhannu neu guddio eu cysylltiadau â chaethwasiaeth a’r Ymerodraeth,” ychwanegodd.
“Dw i ddim yn siarad rŵan am yr Ymddiriedolaeth yn unig, ond perchnogion eraill ein safleoedd hanesyddol.
“Dw i’n ddiolchgar am bob profiad, ond roedd sefydlu’r arddangosfa yng Nghastell Penrhyn [ar gyrion dinas Bangor yng Ngwynedd] ar y cysylltiad rhwng Castell Penrhyn a chaethwasiaeth yn 2007 mor bwerus.
“Hon oedd arddangosfa gyntaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y cysylltiadau rhwng un o’i safleoedd a chaethwasiaeth.
“Roedd llawer o bobol yn gwrthwynebu, ond roedd cymaint mwy yn gwerthfawrogi ein hymdrechion.”
Mae Dr Marian Gwyn yn Bennaeth Treftadaeth gyda Chyngor Hil Cymru, gwaith y mae hi’n gwirioni arno gan ei fod mor amrywiol.
“Un eiliad dw i’n gweithio gyda nhw ar brosiect i recordio straeon gwerthfawr cenedlaeth Windrush yng Nghymru, a’r nesaf dw i’n gweithio i ddatblygu rhaglen greadigol o amgylch ein menter Hanes Pobol Dduon Cymru 365.”
Yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn eistedd ar weithgor Llywodraeth Cymru, oedd yn cael ei arwain gan Gaynor Legall, yn archwilio i gerfluniau a chofebion sy’n gysylltiedig â chaethwasiaeth a’r Ymerodraeth Brydeinig.
Ynghyd â hynny, mae hi’n aelod o’r gweithgor, dan arweiniad Charlotte Williams, fu’n archwilio sut i ymgorffori amrywiaeth fel rhan o’r cwricwlwm newydd, ac mae hi’n “hynod falch” o’r gwahoddiad i ymuno â’r ddau weithgor.
“Dw i’n caru’r amrywiaeth, mae bob dydd yn wahanol. Dw i wrth fy modd yn cyfarfod gwahanol bobol bron bob dydd, un eiliad alla i fod yn gweithio gyda grŵp bach ar brosiect treftadaeth leol a’r nesaf dw i’n cynghori ar lefel strategol i sefydliad gwladol mawr.
“Gall y pynciau ymchwil fod yn heriol iawn wrth gwrs, mae llawer yn ei chael hi’n anodd dod i delerau ag o.
“Dw i’n teimlo bod rhywbeth werth chweil os all o helpu ni i ddeall ychydig mwy am y gorffennol anodd.”