Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Yn ôl fy arfer, dw i wrthi’n darllen sawl llyfr ar yr un pryd. Dw i newydd gael fy machau ar nofel newydd fy nghyfaill Jerry Hunter, Safana, ac yn edrych ymlaen yn arw at ei darllen dros y penwythnos nesaf yma. Fel arall, dw i wrthi’n darllen Splinters in your Eye gan Martin Jay, llyfr yn trafod agweddau ar athroniaeth ‘Ysgol Frankfurt’ – rhywbeth roeddwn i’n ymddiddori llawer iawn ynddo ar un adeg.

Ar ben hynny, dw i wrthi’n darllen lot am hanes gwleidyddol Iwerddon fel rhag-baratoad ar rywbeth dw i’n bwriadu ei sgwennu fy hun flwyddyn nesaf  – dw i’n ffodus iawn fod pleser a gwaith yn un yn y pethau yma! Ar hyn o bryd, The Resurrection of Ireland gan Michael Laffan sy’n trafod syniadaeth y Sinn Féin gwreiddiol sy’n cael y flaenoriaeth. Mae o’n glamp o lyfr mawr felly fe fydd yn fy nghadw’n ddiddig am sbelan.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd 

Cofiant Giuseppe Fiori o Antonio Gramsci, Antonio Gramsci: Life of a Revolutionary, a gyfieithwyd i’r Saesneg gan Tom Nairn. Am ddyn, am fywyd, am lyfr.

Y llyfr a ddylanwadodd fwyaf arna

Y ddau awdur sydd wedi dylanwadu fwyaf arna’i ydi Perry Anderson a Tom Nairn. A phe taswn i’n gorfod dewis un llyfr mae’n siŵr mai The Break-up of Britain gan Tom Nairn fasa’n ei chael hi. Fe fues i’n ffodus iawn i gael sgwennu rhywbeth hefo fo flynyddoedd yn ôl, bellach. A bod yn onest, dw i ddim yn meddwl fod yna unrhyw un wedi ei ddarllen o! Ond dw i’n falch fod o’n bodoli.

Y llyfr sy’n hel llwch

Pan oeddwn i’n gweithio ar y llyfr Englishness: The Political Force Transforming Britain fe fues i’n darllen lot o waith ‘meddylwyr’ mudiad Brexit – pobol fel Daniel Hannan – ac roedd hynny’n gallu bod yn feichus iawn.

Llyfr yr hoffwn fod wedi’i ddarllen, ond heb wneud

Mae yna gymaint o bethau dw i’n teimlo y dylwn i fod wedi eu darllen nes ei bod yn anodd gwybod lle i gychwyn. Ond yn gyffredinol, mae gennyf i ryw euogrwydd parhaol nad ydw i yn darllen llawer o ffuglen ‘drom’. Ond dyna fo, llyfrau ffeithiol, hanesyddol, dadansoddol neu syniadaethol sy’n mynd â fy mryd i, a waeth i mi heb â chogio fel arall.

Y llyfr dw i’n troi ato mewn cyfyng gyngor

Llyfrau coginio – am ysbrydoliaeth neu gymorth.

Y llyfr y byddwn i’n ei roi fel anrheg

Dw i wedi rhoi sawl copi o A Machynlleth Triad/Triawd Machynlleth gan Jan Morris a Twm Morys yn anrheg. Anodd meddwl am ryddieithwyr gwell yn y Gymraeg na’r Saesneg na’r ddau yna, ac mae’r gyfrol yn berl. Os nad ydych wedi ei ddarllen, gwnewch hynny ar fyrder!

Fy mhleser (darllen) euog

Dw i ddim yn meddwl mod i fyth yn teimlo’n euog am ddarllen. Pam y dylwn i? Dw i’n dychwelyd (heb euogrwydd) at nofelau gofodlen Iain M Banks.

Y llyfr yr hoffwn gael fy nghofio amdano 

Dwn i ddim am gael fy nghofio am lyfr, ond dw i wrthi’n gorffen sgwennu llyfr ar hyn o bryd y byddwn i’n licio meddwl y bydd pobol o leiaf yn ei ddarllen. Llyfr am y gyfundrefn gyfraith droseddol Gymreig ydi o, wedi ei sgrifennu ar y cyd hefo Rob Jones (ac i’w gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru.)

Cymru sydd hefo’r raddfa uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop ac mae’r holl gyfundrefn yn llanast. Mae angen i ni ddeall beth sy’n mynd ymlaen o’n cwmpas ni a – gobeithio – penderfynu gwneud rhywbeth yn ei gylch.

 

RICHARD WYN JONES

Sylwebydd gwleidyddol ac ysgolhaig sy’n hanu o bentref bach Penmynydd ar Ynys Môn. Mae yn Gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru a Deon Materion Cyhoeddus Prifysgol Caerdydd ac wedi sgrifennu’n helaeth ar wleidyddiaeth gyfoes Cymru a gwleidyddiaeth ddatganoledig gwledydd Prydain. Mae yn cadw colofn reolaidd yn y cylchgrawn materion cyfoes Barn, ac wedi sgrifennu colofnau barn i bapurau newydd gan gynnwys y Western Mail, Irish Times, Guardian a Sunday Times. Mae yn Gymrawd gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru ac Academi y Gwyddorau Cymdeithasol. Ymhlith ei lyfrau mae Methiant Prifysgolion Cymru (Medi 2004), Wales Says Yes (2012), ac Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru – Plaid Cymru a’r Cyhuddiad o Ffasgaeth (2013). Eleni cyd-gyhoeddodd Englishness: The Political Force Transforming Britain gydag Ailsa Henderson (Oxford University Press), yn edrych ar natur cenedlaetholdeb Seisnig. Mae yn rhannu ei amser rhwng Treganna, Caerdydd a Fagerstrand yn Norwy.