Mae mab awdur stori eiconig yn ofni y bydd y nofel honno yn cael ei hanwybyddu unwaith eto gan y sefydliad llenyddol, fel y maen nhw wedi gwneud ers degawdau, meddai.
Fe fydd Gwasg y Bwthyn yn adargraffu Y Dydd Olaf, nofel wyddonias Owain Owain o 1976, cyn pen y mis, yn dilyn cryn sylw i’r nofel gan y to iau. Mae’r nofel, sy’n trafod themâu arloesol fel clonio a deallusrwydd artiffisial, wedi cael sylw o’r newydd yn ddiweddar ar ôl iddi gael ei chyhoeddi a’i thrafod ar-lein, ac ar ôl i’r artist pop Gwenno Saunders gyhoeddi albwm cyfan yn seiliedig arni yn 2014.
“Rydyn ni’n siomedig ei bod wedi cymryd 50 mlynedd a dim yn digwydd – dim erthygl, dim rhaglen, dim byd,” meddai Robin Llwyd ab Owain, mab yr awdur, yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos yma. “Dim ond tawelwch, sensoriaeth o ryw fath, ond rydyn ni’n hapus iawn ei fod o o’r diwedd yn digwydd.
“Mae hi’n berthnasol, ac mae hi’n ddealladwy i bobol ifanc. Mae gennych chi yn dal eich ffosilau San Ffaganaidd yn bodoli, sydd ddim yn deall beth ydi ‘monitor’ heb sôn am ‘sglodion’, ac yn y blaen.
“Mae Cymru wedi ei rhannu: mae llawer iawn yn sbïo’n ôl, ond mae’r rhai pwysig, y bobol ifanc, yn mynd i’w deall hi, ac yn mynd i sylweddoli’r neges gyfoes sydd ynddi hi.”
Roedd yr awdur wedi anfon y nofel i gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman yn 1970. Penderfynodd y beirniaid, Rhiannon Davies Jones, Thomas Parry ac Alun Llywelyn-Williams, atal y wobr. Yn eu beirniadaeth, fe nodwyd bod gwaith ‘Caethwas’ yn ‘peri straen feddyliol ar y darllenydd sy’n rhwystro iddo wir fwynhau’r gwaith’.
“Mae gen i barch mawr at y tri beirniad,” meddai Robin Llwyd ab Owain. “Ond maen nhw’n rhan o gyfnod sy’n parhau hyd heddiw, lle mae’r union fath yna o syniadau – o sbïo ’nôl, rhyw hiraeth am ryw orffennol sy’n cael ei ddychmygu gan bobol, yn hytrach na sbïo ’mlaen. Dyna oedd y nofel yma yn ei wneud – sbïo ’mlaen.
“Mae’r tri beirniad yna yn cynrychioli pobol sydd yn fyw heddiw sydd wedi anwybyddu’r nofel ac sydd yn mynd i barhau i anwybyddu’r nofel pan gaiff y gyfrol ei chyhoeddi.”
Lle mae’r Eisteddfod ym mlwyddyn y pandemig?
Yn ôl Robin Llwyd ab Owain, un sy’n gyfrifol am godio a diweddaru gwefan Gymraeg y Wicipedia, mae’r Cymry wedi bod yn araf yn cofleidio technoleg, sydd wedi bod mor hanfodol ym mlwyddyn yr haint diolch i raglenni cynadledda fel Zoom.
“Dw i ychydig yn ddig bod Cymru mor hen ffasiwn, wedi anwybyddu’r dechnoleg,” meddai. “Dydyn ni ddim wedi ei chofleidio hi ddigon fel ein bod ni’n gallu parhau gydag Eisteddfod Genedlaethol pan fo pethau fel hyn (y pandemig) yn digwydd. Buodd yna Eisteddfod yn y rhyfel pan oedd Abertawe’n fflam!”