Mae hi’n bryd i’r sefydliad Cymraeg barchu nofel yr awdur Owain Owain, dyn a lwyddodd i ddarogan dyfodiad y rhyngrwyd flynyddoedd cyn i Tim Berners-Lee ei sefydlu…

‘Ni welwyd dim byd tebyg i’r llyfr hwn yn ein hiaith o’r blaen na dim byd hollol debyg mewn unrhyw iaith.’ Dyna eiriau’r bardd Pennar Davies yn ei ragair i nofel wyddonias Owain Owain, Y Dydd Olaf, yn 1976.