Da ‘Di Disgo!
Pwy sylwodd ar seren yn dawnsio disgo’n ddi-dor ddechrau’r mis? Do, aeth Llŷr Ifans, yr actor sy’n byw yn y Felinheli, ati i godi arian mewn ffordd go unigryw – dawnsio disgo am wyth awr ar gae Ysgol y Felinheli! Yn ôl Lisa Gwilym, cadeirydd Cyfeillion Ysgol y Felinheli a gwraig Llŷr, “mae wedi bod yn amhosib trefnu gweithgareddau hwyliog ar gyfer disgyblion yr ysgol eleni oherwydd y pandemig, ac yn sgil hynny mi’r oedd coffrau’r Cyfeillion yn eitha’ llwm.”
Roedd Llŷr a Lisa yn awyddus bod pob disgybl yn cael y cyfle i ddewis cân ar gyfer y rhestr chwarae – disgo i’r plant wedi’i greu gan y plant! Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl i gasglu arian oedd wir ei angen i brynu llyfrau ac offer digidol ar gyfer disgyblion yr ysgol . Llwyddwyd i godi dros £4,500, ac mae modd cyfrannu eto – ewch i BangorFelin360.
Blas o’r Bröydd
Sgiliau arbennig teulu Awelon wrth chwarae dartiau
Mae gan deulu Awelon o Lanbed ddawn arbennig wrth chwarae dartiau – dawn sydd wedi’u galluogi i fynd i Gibraltar i gystadlu mewn ffeinals byd-eang yr haf hwn.
Yno, bu’r teulu o bedwar yn llwyddiannus iawn yn eu cystadlaethau categori oedran, gyda Llinos yn ennill £75 ar ôl cyrraedd yr 16 olaf, a Brynmor yn ennill £150 ar ôl cyrraedd y chwarter olaf. Mae’r cyfan wedi bod yn brofiad anhygoel i’r teulu, ac maent yn gobeithio cael cystadlu mwy yn lleol yn 2021. Ewch i Clonc360 i ddarllen rhagor.
Sgiliau arbennig teulu Awelon wrth chwarae dartiau
Paentio’r mart yn goch!
Daeth llawer o’r gymuned amaethyddol yn ardal Pontarfynach ynghyd yn ddiweddar i dorchi llewys a phaentio pob twll a chornel o’r farchnad ddefaid.
Yn ôl James Raw, “braf oedd gweld cymaint yn ymgynnull, gan gadw pellter cymdeithasol wrth gwrs, a chwblhau’r gwaith o baentio, tacluso a sgrwbio.” Mae’n cymryd y cyfle i rannu ychydig o hanes ‘Mart y Brij’, yr arwerthwr a’r seli defaid mawr hefyd ar ei wefan fro.
Mae’r arfer o ddod ynghyd fel criw i gwblhau gwaith yn rhan o wead bywyd cefn gwlad. Ond mae’r lluniau’n dangos bod digon o joio yn digwydd, yn ogystal â gweithio!
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Paentio’r mart yn goch, gan James Raw ar BroAber360
- Pennod newydd i Gwmni Cyfreithwyr ym Mhenygroes, gan Mali Llyfni ar DyffrynNantlle360
- AS yn ymweld â chynllun bwyd Cwm-y-glo a Llanrug, gan Osian Owen ar BroWyddfa360