Ers misoedd, mae’r blogiwr dadleuol, Royston Jones, wedi bod yn tynnu sylw at y peryg o chwalfa ym mudiad YesCymru. Yr wythnos yma, mae hynny gam yn nes. Tros gyfres o flogiau (hir), mae wedi darlunio mudiad o ddelfrydwyr cymharol naïf yn cael ei feddiannu gan y math o garfannau asgell chwith/gwleidyddiaeth rhywedd y mae o’n eu casáu …

“Os na fydd gweithredu cyflym a chadarn yn digwydd gallai mudiad YesCymru ei gal ei hun yn talu – yn llythrennol! – am ymddygiad gwrthnysig a throseddol ychydig ddwsinau o bobol. Fyddai hynny ddim yn deg ar filoedd ar filoedd o bobol ddeche. Os oes achub ar YesCymru, mae’n rhaid i’w achubwyr fod yn ddidrugaredd. Cael gwared ar yr euog a gadael iddyn fod nhw ar eu pen eu hunain. Maen nhw eisoes wedi gwneud digon o ddifrod.” (jacothenorth.net.blog)

Mae llawer o’r brwydrau mewnol wedi bod yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol – arwyddocaol, meddai Ifan Morgan Jones, sy’n rhannu proffwydoliaeth Jac …

“…mae’r pandemig… wedi gorfodi YesCymru oddi ar y strydoedd lle’r oedd pawb yn gwbl llythrennol yn gorymdeithio Oll dan un Faner – ac i ganol y cerrig ateb ar-lein. Er mor fyrhoedlog ydi’r cyfryngau cymdeithasol, mae’r hyn sydd yn y fantol i YesCymru yn fawr iawn. Dydi hi ddim yn gor-ddweud i nodi os na fydd y mudiad yn chwilio am ryw fath o undod yn fuan, yna gallai ddiflannu mor gyflym ag y daeth.” (nation.cymru)

Ond at bethau hapusach … rownd derfynol pencampwriaeth yr Ewros. Mike Small yn yr Alban oedd yn gweld tebygrwydd rhwng agwedd Lloegr at ei thîm ac at ei sefyllfa wleidyddol. Y craidd ydi’r syniad rhywsut fod Lloegr i fod i ennill …

“Mae wedi ei seilio ar deimlad od o hawl eithriadol sy’n cynnal llawer o ddisgwyliadau’r Saeson ac sy’n arwain at y fath siom ofnadwy. Mae’r hawl eithriadol yma’n rhemp ac yn danwydd cyfoethog i Boris Johnson a chenedlaetholdeb Seisnig… mae’r syniad wedi ei seilio ar ryw dybiaeth eu bod rhywsut yn haeddu gwneud yn llawer gwell, eu bod rhywsut yn haeddu ennill pencampwriaethau rhyngwladol er nad ydyn nhw, wel, yn arbennig o dda.” (bellacaledonia.org.uk)

A beth am bwnc mawr y byd Cymraeg? Yr argyfwng tai gwyliau. Mi sgrifennodd Dafydd Glyn Jones am hyn flynyddoedd yn ôl ac, wrth ddyfynnu o’r blog hwnnw, mae’n dal at ei safbwyntiau …

“Hwyrach fod rhan o’r ateb gan yr hen Gymry. Daliaf fod hawl o hyd gan bob Cymro i hendref a hafod, os yw ei amgylchiadau mewn rhyw fodd yn caniatáu. Gadewch inni beidio â gwamalu: mae tŷ haf neu ail gartref yn iawn os mai Cymro a’i piau…

Gan geisio byw’r broffes hon dyma fi’n dal fy ngafael ar dŷ yn fy ardal enedigol, sy’n ail dŷ i mi. Fy niolch? Y bygythiad o gael dyblu fy nhreth i gyngor gwlatgar Gwynedd. A ddylwn i wneud yr aberth yn llawen, mewn ffydd y bydd yn troi i ffwrdd y prynwr cyfoethog o Loegr? Os dyblir y dreth, neu ei threblu, neu fwy, mentraf broffwydo na fydd yn mennu y mymryn lleiaf ar y prynwr hwnnw.” (glynadda.wordpress.com)