Mae gan y sector treftadaeth “rôl hanfodol” er mwyn mynd i’r afael â hiliaeth yng Nghymru heddiw, meddai’r hanesydd Dr Marian Gwyn.
Yn ddiweddar, mae chwaraewyr pêl-droed Lloegr wedi cael eu cam-drin yn hiliol ar-lein wedi i Loegr golli gêm derfynol yr Ewros.
Dros y misoedd diwethaf, mae chwaraewyr Cymru, a chlybiau megis Clwb Pêl-droed Abertawe, wedi dioddef camdriniaeth debyg hefyd – ac mae galwadau ar gwmnïau cyfryngau cymdeithasol i wneud mwy i fynd i’r afael â’r hiliaeth.
Mae Dr Marian Gwyn yn Bennaeth Treftadaeth gyda Chyngor Hil Cymru, ac yn rhan o’r gweithgor sy’n ceisio gwella’r ffordd y caiff themâu’n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobol ddu, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig eu cynnwys yn y cwricwlwm newydd.
Yn ôl Dr Marian Gwyn, mae’n rhaid cydnabod bod pobol Cymru wedi cymryd rhan weithredol yn yr Ymerodraeth Brydeinig, ac wedi elwa ohoni.
Gyda’r rhan fwyaf o bobol yn dysgu am eu hanes drwy safleoedd hanesyddol, amgueddfeydd, dramâu teledu, a nofelau, mae’n holl bwysig bod safleoedd treftadaeth yn cael yr hanes trefedigaethol “yn iawn”, meddai.
“Deall y byd rydyn ni’n byw ynddo”
Mae hi’n bwysig dysgu am hanes trefedigaethol, a rhan Cymru yn yr ymerodraeth, “oherwydd ei fod o’n helpu ni i ddeall y byd rydyn ni’n byw ynddo rŵan,” meddai Dr Marian Gwyn, sy’n arbenigo mewn hanes ymerodraethol a chaethwasiaeth.
“Mae’n anodd i ni yng Nghymru gydnabod ein gorffennol, nid dyma sut rydyn ni’n hoffi meddwl amdanom ni’n hunain.
“Ond mae’n rhaid i ni gydnabod bod pobol Cymru wedi cymryd rhan weithredol yn yr Ymerodraeth, a daeth rhai yn gyfoethog iawn o wneud hynny.
“Ac nid siarad yma yn unig ydw i am berchnogion caethweision fel y Pennants o Gastell Penrhyn, ond morwyr fel Thomas Phillips o Aberhonddu a fu’n gapten ar long caethweision y bu farw bron i hanner y cargo dynol arni ar eu taith ar draws Môr yr Iwerydd yn 1693.
“A hefyd y masnachwyr siwgr fel Syr Thomas Middleton o’r Waun, neu wehyddion cyffredin canol Cymru a wehyddodd filltiroedd o frethyn Cymreig a gyfnewidiwyd am gaethweision yn Affrica ac a ddefnyddiwyd hefyd mewn dilladau ar blanhigfeydd yn y Caribî ar gyfer caethweision.
“Roedd ein cysylltiadau â gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig yn [rai] go-iawn, yn real, ac roedd sawl rhan o Gymru wedi elwa o’r cyfoeth ddaeth o hyn – diwydiannau copr a haearn yn arbennig.
“A gall gwybod am y cysylltiad hwn helpu ni i ddeall pam ein bod ni’n byw mewn Cymru fwyfwy amrywiol rŵan, gyda phobol y mae eu cyndeidiau wedi cyfrannu at Gymru, ac sydd eu hunain yn cyfrannu at Gymru rŵan.
“Mae eu straeon nhw yn bwysig, ac mae angen i ni siarad am yr hanes.”
“Rôl hanfodol”
Mae Dr Marian Gwyn yn dweud fod gan y sector treftadaeth “rôl hanfodol” er mwyn mynd i’r afael â hiliaeth.
“Dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n dysgu’r rhan fwyaf o’n hanes drwy’r ysgol, neu o ddarllen llyfrau, rydyn ni’n dysgu ein hanes o be dw i’n alw’n hanes cyhoeddus… gwylio drama hanesyddol, darllen nofel hanesyddol, neu ymweld â safle hanesyddol,” meddai Dr Marian Gwyn, a fu’n gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y gogledd am ugain mlynedd.
“A dyna pam mae’n hanfodol i’r safleoedd hyn ei gael yn iawn, yr hanes yma.
“Gellir defnyddio safleoedd treftadaeth ac amgueddfeydd fel lleoedd diogel i gael trafodaethau caled am bynciau anodd, dyma le gallwn ni edrych ar bethau fel cerflun o rywun fel Syr Thomas Picton yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.
“Efallai bydd rhai’n dweud ‘Edrychwch ar yr arwr rhyfel hwn’, ond gallai eraill ddweud ‘Wel maen gerflun dyn oedd yn greulon gyda’r caethweision yn Trinidad’.
“Os gallwn ni gael pobol ifanc i fynd i’r lleoedd hynny, i gael y trafodaethau hyn, i roi’r offer sydd ei hangen arnyn nhw i ddeall sut mae’r gorffennol yn effeithio ar y dyfodol, yna bydd gan ein safleoedd treftadaeth le go-iawn wrth fynd i’r afael â hiliaeth.”
“Arwain y ffordd”
“Mi ydw i, wrth gwrs, yn llawn deall y caledi a wnaeth gweithwyr diwydiannol Cymru eu dioddef a’u profiadau nhw’n cael eu hecsbloetio,” ychwanegodd Dr Marian Gwyn.
“Ond ni allwn ni yng Nghymru fod yn ddall i’r ffaith fod nifer o bobol Gymraeg wedi cymryd rhan yn yr ymerodraeth o’u gwirfodd – i’r rhan fwyaf roedd hi just yn swydd, i eraill roedd hi’n rhoi incwm gwell iddyn nhw, tra bod eraill wedi dod yn gyfoethog dros ben.
“Mae Cymru’n arwain y ffordd ar sut mae hi’n cydnabod ei gorffennol anodd, drwy’r gwaith mae hi’n wneud drwy weithio â grwpiau ar gofebion yn ymwneud â’r ymerodraeth, amrywiaeth yn y cwricwlwm newydd, ac yn ei Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.
“Mae Cymru wedi dangos, er ei bod hi ddim yn hawdd gweld ei bod hi ei hun wedi chwarae rhan mewn gorffennol mor anodd, ei bod hi wedi ymrwymo i gwmpasu straeon ehangach holl bobol amrywiol Cymru i’w phresennol a’i dyfodol.”