Diffyg dealltwriaeth, nid bias gwleidyddol, sydd wrth wraidd penderfyniad Llywodraeth San Steffan i labelu Gwynedd yn un o ddwy sir leiaf anghenus Cymru.

Dyna farn Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, ac un o’r arweinwyr rheiny a fu’n rhoi tystiolaeth am gyllid yn sesiwn ddiweddaraf y Pwyllgor Materion Cymreig.

Mae Llywodraeth Geidwadol San Steffan wedi ymrwymo i wella sefyllfa economaidd ardaloedd tlotaf Prydain – “levelling up” yw’r arwyddair.