Mae gwinllan yn y gogledd wedi derbyn gwobr efydd am un o’u gwinoedd.
Fe dderbyniodd Gwinllan Conwy y wobr fyd-enwog sy’n cael ei roi gan gylchgrawn gwinoedd Decanter.
Cafodd gwin Solaris sgôr o 89 allan o 100 gan y cylchgrawn, sydd drwch blewyn o sgôr medal arian.
Yn gynharach yn y flwyddyn, fe enillodd y cwmni o Langwstenin ger Cyffordd Llandudno ddwy fedal efydd yng nghystadleuaeth yr International Wine Challenge.
Mae hynny’n golygu eu bod nhw wedi casglu 17 o fedalau ers rhyddhau eu potel gyntaf yn 2016.
Mae’r cwmni erbyn hyn yn cynhyrchu 10,000 o boteli gwin y flwyddyn, gyda’r winllan yn gorchuddio mwy na thair erw o dir.
Ansawdd yn dod yn gyntaf
“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi ennill y gwobrau hyn i gyd ac yn derbyn cymaint o adborth cadarnhaol,” meddai Colin Bennett, cyd-berchennog y cwmni gyda’i wraig Charlotte.
“Ond i ni, y peth pwysicaf bob amser yw’r cwsmeriaid ac ansawdd y gwin rydyn ni’n ei gynhyrchu yma yng Nghonwy.
“O flwyddyn i flwyddyn, rydyn ni’n dyblu mewn maint ac mae hynny’n siŵr o barhau wrth i ni baratoi i lansio ystod o winoedd clasurol.”
Effaith Covid-19
Mae’r pandemig wedi bod yn ergyd enfawr i’r holl ddiwydiant cynhyrchu bwyd a gwin, ac mae’r perchnogion yn edrych ymlaen at gael gadael y cyfnod ar eu holau.
“Mae Covid-19 wedi gwneud i ni ganolbwyntio’n galetach ar ddychwelyd i normalrwydd ac addasu i gwrdd â heriau’r pandemig,” meddai Charlotte Bennett.
“Mae yna lawer o bethau gennym ni ar y gweill, felly rydyn ni’n gyffrous i gael symud ymlaen achos fel y rhan fwyaf sydd yn y sector, rydyn ni wedi cael ein taro’n wael gan y cyfnod clo.
“Wedi dweud hynny, mae wedi rhoi cyfle inni adlewyrchu a hyrwyddo ein presenoldeb ar y we, a darparu anrhegion Cymreig fel hamperi.”
Mae Gwobrau Gwinoedd y Byd Decanter wedi eu rhannu i bum haen, sef y Goreuon, Platinwm, Aur, Arian ac Efydd.
Yn gynharach eleni, fe gafodd Gwinllan White Castle o sir Fynwy wobr aur am eu gwin Pinot Noir – y winllan gyntaf o Gymru i gyrraedd y safon hynny.