Mae Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, wedi cyhoeddi bod plant a phobol ifanc yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr gysgodi rhag Covid-19.

Daw’r penderfyniad oherwydd nad ydyn nhw bellach yn cael eu hystyried yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol mewn perthynas â’r coronafeirws.

Mae’n gam sy’n cael ei argymell gan holl Brif Swyddogion Meddygol y Deyrnas Unedig, ac mae’n golygu na fydd yn ofynnol i tua 2,700 o blant a phobol ifanc gysgodi o hyn allan.

Bydd pob plentyn a pherson ifanc mae’r newid hwn yn effeithio arnyn nhw yn derbyn llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol yn esbonio nad ydyn nhw bellach yn cael eu hystyried yn eithriadol o agored i niwed, ond y dylen nhw barhau i gymryd camau i leihau eu risg o ddal y feirws.

Bydd brechu rhai plant rhwng 12 a 15 oed sydd â chyflyrau iechyd penodol, neu sy’n byw gydag unigolion â system imiwnedd wan, yn parhau yn unol â chyngor y gallai imiwneiddio fod o fudd i rai grwpiau.

‘Gofalus’

“Rydyn ni wedi bod yn ofalus tu hwnt, a gweithredu ar sail data drwy gydol y pandemig ac rydyn ni’n parhau i wneud hynny,” meddai Eluned Morgan.

“Rydyn ni wedi edrych yn ofalus ar y data o’r 18 mis diwethaf, ac wedi ein sicrhau na ddylai plant a phobol ifanc a ystyriwyd yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn flaenorol gael eu cynnwys ar y rhestr gwarchod cleifion bellach oherwydd bod y risg o salwch difrifol neu farwolaeth o’r coronafeirws yn isel iawn.

“Mae’r pandemig wedi effeithio’n ddifrifol ar blant a phobl ifanc, gyda llawer yn colli’r ysgol ac yn methu cwrdd â theulu a ffrindiau.

“Bydd y newid i’r rhestr warchod yn sicrhau mai dim ond pobl sydd wir angen dilyn y cyngor hwn sy’n aros ar y rhestr.

“Rydyn ni’n dal i ddysgu am effeithiau haint coronafeirws, gan gynnwys Covid hir, ac rwy’n annog pawb yng Nghymru i barhau i wneud popeth o fewn eu gallu i leihau’r risg o ddal y feirws a helpu i ddiogelu Cymru a’u hanwyliaid.”