Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol David TC Davies wedi gofyn i’r corff gwarchod monopoli i ymchwilio i brisiau profion PCR ar gyfer Covid-19 i bobol sy’n teithio i Gymru o dramor.
Ar hyn o bryd, mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn mynnu bod angen i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru ddefnyddio un darparwr profion.
Yn Lloegr, mae hawl gan bobol i ddewis o blith 400 o gwmnïau preifat sy’n gymwys i gynnig y profion am bris llai.
Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol yn dweud bod profion y Gwasaneth Iechyd yn costio mwy “nag sydd angen i bobol ei dalu”.
Cyhoeddodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) adolygiad o’r system profion Covid-19 ar gyfer teithwyr yn dilyn cwynion am brisio a pherfformiad ymhlith rhai darparwyr preifat yn Lloegr.
Mae David TC Davies, sydd hefyd yn un o weinidogion Swyddfa Cymru Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wedi ysgrifennu at y CMA yn cytuno bod “angen adolygiad i amddiffyn gwneuthurwyr gwyliau” ac yn eu hannog i “edrych yn ofalus iawn ar gost profion PCR yng Nghymru”
Cymru
Mae cost prawf wedi gostwng o £88 i £68 ond yn Lloegr, gall pobol ddewis rhwng darparwyr preifat a gallen nhw dalu llai na £50 y prawf.
Dywed Gweinidogion Cymru fod profion y Gwasanaeth Iechyd yn sicrhau bod unrhyw achosion positif ac amrywiolion niweidiol yn cael eu nodi cyn gynted â phosibl.
Mae gofynion prawf yn berthnasol i deithwyr sy’n dychwelyd i Gymru, hyd yn oed os ydyn nhw’n cyrraedd maes awyr neu borthladd yn Lloegr.
Fe wnaeth y prif weinidog Mark Drakeford wrthod galwadau i newid polisi Cymru fis diwethaf.
Ond mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pobol i beidio â theithio dramor ar gyfer gwyliau’r haf.
Os yw person yn dewis defnyddio cwmni preifat ar gyfer prawf PCR, fe allen nhw wynebu dirwy o £1,000.
Mae David TC Davies yn dweud nad oes gan Lywodraeth Cymru’r hawl i wneud teithio yn fwy anodd i deithwyr.
Llywodraeth Cymru
Yn ôl Llywodraeth Cymru, “mae’n hanfodol bod unrhyw achosion cadarnhaol ac amrywiolion niweidiol yn cael eu nodi cyn gynted â phosibl”.
“Am y rheswm hwn, am y tro, mae angen i’r Gwasanaeth Iechyd ddarparu’r profion, fel y gallwn nodi achosion cadarnhaol cyn gynted â phosibl gyda ein system Profi, Olrhain, Diogelu,” meddai llefarydd.