Mae disgwyl i Uno’r Undeb gael dynes yn ysgrifennydd cyffredinol am y tro cyntaf, yn dilyn pleidlais i olynu Len McCluskey.

Bydd papurau pleidleisio yn cael eu cyfrif yn ffurfiol heddiw (dydd Mercher, Awst 25), ac mae disgwyl i Sharon Graham, ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol yr undeb, ennill.

Y gred yw ei bod wedi derbyn ychydig filoedd yn fwy o bleidleisiau na Steve Turner, yr ymgeisydd roedd cryn ddisgwyl y byddai’n ennill.

Mae’n debyg y bydd yr ymgeisydd arall, Gerard Coyne, yn dod yn drydydd.

“Rydym yn hyderus y bydd Sharon yn ennill,” meddai llefarydd ar ran ymgyrch Sharon Graham.

“Os bydd hi’n gwneud hynny, bydd hi’n fuddugoliaeth hanesyddol i’r ymgyrch a’r gweithwyr ym Mhrydain ac Iwerddon.”

Sharon Graham sy’n arwain Adran Trefnu a Throsoledd Uno, sy’n arbenigo mewn ymgymryd â chyflogwyr gelyniaethus.

Mae hi wedi arwain anghydfodau diweddar yn British Airways a Crossrail, yn ogystal ag ymgyrchu i sefydlu undeb yng nghwmni Amazon.

‘Ymgeisydd y gweithwyr’

Disgrifia Sharon Graham ei hun fel yr “ymgeisydd y gweithwyr”, gan addo mynd ag Uno “yn ôl i’r gweithle”.

Mae hi’n dweud ei bod hi am ailadeiladu’r undeb fel mudiad sy’n darparu’n ddiwydiannol ac yn wleidyddol.

Wrth siarad am yr ymgyrch etholiadol, dywedodd mai ei “slogan yw ‘Nôl i’r gweithle’ i adeiladu’r undeb i frwydro am swyddi, cyflogau ac amodau”.

“Mae hynny wedi cael ei wobrwyo gyda chefnogaeth enfawr i mi mewn canghennau diwydiannol mawr fel Hinkley Point, adeiladwyr yn Llundain, adeiladwyr yn Iwerddon a Vauxhall,” meddai wedyn.

“Mae fy nghydlynwyr ymgyrchu yn amcangyfrif fod enwebiadau fy nghangen yn cwmpasu sylfaen bleidleisio bosibl o 250,000 o aelodau – a hynny cyn i’r 300,000 o fenywod yn yr undeb gael dweud eu dweud.

“Dydw i ddim yn aelod o unrhyw garfan Uno na Llafur – heblaw am fy ngrŵp cefnogwyr fy hun.

“Mae aelodau Uno yn y gweithle eisiau newid go iawn, nid setlo hen sgôr na dadlau yn San Steffan.”