Mae Asthma UK a Sefydliad Ysgyfaint Prydain yng Nghymru yn ategu’r alwad am ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.
Maen nhw am weld ymchwiliad sy’n craffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru a’r modd y caiff gwasanaethau gofal iechyd eu cyflwyno yn y dyfodol.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth yr Alban gyhoeddi y bydd yn sefydlu ymchwiliad penodol i’r Alban erbyn diwedd y flwyddyn.
“Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru ddilyn eu hesiampl,” meddai Joseph Carter, Pennaeth Asthma UK a Sefyliad Ysgyfaint Prydain yng Nghymru, wrth gyfeirio at benderfyniad Llywodraeth yr Alban.
“Yn ddiweddar, fe welson ni Lywodraeth Cymru’n gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch sut y dylen ni ymddwyn yng Nghymru er mwyn cyfyngu ar ymlediad Covid-19 a chadw ein gilydd yn ddiogel.
“Fodd bynnag, os yw Llywodraeth Cymru’n gallu torri eu cwys eu hunain yn nhermau’r rheolau rydyn ni’n eu dilyn, yna mae’n hanfodol bod y penderfyniadau mae’r un llywodraeth honno wedi’u gwneud yn destun craffu mewn ymchwiliad Covid-19 penodol i Gymru.”
Beth ddylid craffu arno?
Yn ôl Joseph Carter, mae’n werth ystyried y rheolau sy’n gorfodi pobol i wisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus ond hefyd y penderfyniadau sy’n ymwneud â gofal a thriniaethau mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb amdanyn nhw.
Mae’n dweud y byddai penderfyniadau sy’n berthnasol i Gymru’n cael eu colli yn ystod ymchwiliad Prydeinig.
“Mae’r 18 mis diwethaf wedi gweld mwy o ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau datganoledig nag erioed o’r blaen,” meddai.
“Rhaid cofleidio’r fath atebolrwydd yn hytrach na’i drosglwyddo i lywodraeth nad ydyn nhw’n gwneud penderfyniadau yn y maes hwn ar gyfer pobol Cymru.
“Nid dim ond penderfyniadau sy’n ymwneud â thriniaeth sydd wedi bod yn destun craffu, ond hefyd cwestiynau am sut wnaeth Llywodraeth Cymru ymdrin ag amseroedd i ddylifro nwyddau o’r archfarchnad i’r sawl oedd yn cysgodi.”
Astudiaeth achos
Yn ôl ymchwil ar sail sgwrs gyda theulu merch sydd â ffeibrosis systig, daeth yr elusennau i’r casgliad fod cyfathrebu gwael rhwng Llywodraeth Cymru ac archfarchnadoedd ynghylch pwy oedd ar y rhestr flaenoriaeth i gael nwyddau o’r archfarchnad.
Roedd modd i deuluoedd fel yr un dan sylw gofrestru yn Lloegr, ond nid yng Nghymru, er bod system gofrestru ar gyfer pobol fu’n cysgodi.
“Roedd gennym y gwaith papur i brofi ein bod ni’n cysgodi ond doedd yr archfarchnadoedd ddim yn ei dderbyn fel prawf,” meddai’r teulu.
“Dim ond gwybodaeth yn uniongyrchol gan y llywodraeth roedden nhw’n fodlon ei derbyn.
“Roedd hyn yn destun pryder difrifol i ni.”
Ymateb yr elusen
“Dydy digwyddiadau fel hyn ddim yn rhan o broblem ledled y Deyrnas Unedig, ond yn benderfyniadau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru,” meddai Joseph Carter.
“Maen nhw’n haeddu cael eu hystyried felly.
“Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd rhai yn ei chael hi’n anodd cael y cymorth roedd ei angen arnyn nhw i reoli eu cyflwr a byw bywydau llawn.
“Roedd cymunedau gwledig yn benodol yn cael eu heffeithio’n fawr, gyda gwasanaethau’n dueddol o gael eu clystyru gyda’i gilydd er mwyn helpu’r broses o’u cyflwyno.
“Gwelodd y pandemig wasanaethau’n cael eu gorlethu.
“Mae’n dyst i staff clinigol a’r rhai fu’n gwneud penderfyniad fod gwasanaethau’n gallu addasu i sicrhau bod gofal a thriniaethau’n parhau i nifer.
“Mae cynnydd yn y mynediad at adnoddau digidol megis apiau COPD ac asthma, ac apwyntiadau rhithiol gyda meddygon teulu, i’w groesawu ond rhaid i ni gydbwyso’r arloesi newydd yma a sicrhau nad yw’r rhai sy’n elwa ohonyn nhw’n cael eu cau allan o ofal mewn person pan fo gwasanaethau’n ailddechrau.
“Mae hyn yn cynnwys cynyddu mynediad at wasanaethau megis adfer y galon i wella ansawdd eu bywydau a sicrhau bod modd rhoi diagnosis priodol i bobol yn y lle cyntaf.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydym yn ystyried cynnig Llywodraeth yr Alban ochr yn ochr â’n hymgysylltiad parhaus â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fanylion yr ymchwiliad pedair gwlad,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Rydym yn ceisio ymrwymiad y bydd yr ymchwiliad pedair cenedl yn ymdrin yn gynhwysfawr â gweithredoedd Llywodraeth Cymru a phrofiadau pobl Cymru.”