Mae pwysau cynyddol ar Lywodraeth Cymru gan y gwrthbleidiau i gynnal ymchwiliad annibynnol Covid-19 i Gymru.

Mae Llywodraeth yr Alban wedi cadarnhau y bydd yr Alban yn cynnal ei hymchwiliad cyhoeddus ei hun erbyn diwedd y flwyddyn i ymdriniaeth y llywodraeth o’r pandemig.

Mae Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn dweud eu bod yn awyddus i weld Cymru yn dilyn yn ôl troed yr Alban.

Daw’r tro pedol gan y prif weinidog Nicola Sturgeon yn dilyn pwysau gan bobol sydd wedi colli anwyliaid  o ganlyniad i Covid-19.

Bydd yr ymchwiliad yn craffu ar benderfyniadau a wnaed yn ystod yr argyfwng, gyda’r nod o ddysgu gwersi ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol.

Roedd Nicola Sturgeon eisoes wedi dweud mai ei dewis hi oedd cynnal ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.

Dywed ymgyrchwyr o’r grŵp ‘Teuluoedd mewn Profedigaeth Covid-19’ fod angen ymchwiliad ar wahân yn yr Alban i graffu ar benderfyniadau llywodraeth ddatganoledig yr Alban a’u dal i gyfrif.

Mae bron i 10,500 o farwolaethau lle bu sôn am Covid-19 ar y dystysgrif farwolaeth wedi’u cofrestru yn yr Alban ers dechrau’r pandemig.

Cymru

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud droeon eu bod nhw am weld Cymru’n rhan o ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.

Ond yn dilyn cyhoeddiad Nicola Sturgeon heddiw (dydd Mawrth, Awst 23), mae’r gwrthbleidiau yng Nghymru yn pwyso ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ddilyn yn ôl troed yr Alban.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb dros faterion sydd wedi eu datganoli.

“Ers dros flwyddyn, mae Plaid Cymru wedi gofyn am ymchwiliad cyhoeddus i Gymru’n unig er mwyn edrych ar y ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi delio â’r pandemig,” meddai.

“Yn hytrach, mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi dewis cael pennod Gymreig mewn ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.

“Mae’n briodol bod Cymru wedi gweithredu’n annibynnol mewn cynifer o feysydd yn ystod y pandemig a chyda chymaint o’r meysydd polisi perthnasol wedi’u datganoli a chymaint o benderfyniadau wedi’u gwneud yng Nghymru, mae angen ymchwiliad sy’n benodol i Gymru.

“Bydd colli bywyd, yn ogystal â cholli rhyddid, addysg ac effaith economaidd ddofn yn pwyso’n drwm arnom am flynyddoedd i ddod.

“Mae angen inni edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn fanwl, ac yn gyhoeddus, i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am ei gweithredoedd – da a drwg – ac ni ddylid osgoi craffu manwl.”

‘Sarhau teuluoedd’

Yn yr un modd, mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd am weld ymchwiliad penodol i Gymru.

“Mae Llywodraeth yr Alban nawr wedi cyhoeddi ymchwiliad cyhoeddus, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud hefyd,” meddai’r arweinydd Andrew RT Davies ar Twitter.

“Yng Nghymru, mae Llafur am osgoi ymchwiliad ar bob cyfri.

“Mae’n annerbyniol ac yn sarhau ar deuluoedd sydd wedi collu anwyliaid.”

Mae e bellach wedi cyhoeddi datganiad yn ymhelaethu ar ei sylwadau.

“Cafodd penderfyniadau eu gwneud yng Nghymru – rhai da a drwg – a gafodd effaith uniongyrchol ar fywydau, ac ni all Llafur, a oedd yn awyddus i bwysleisio ar bob cyfle ei bod wedi gwneud pethau’n wahanol, wrthod hynny,” meddai.

“Mae’r galwadau gan deuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru yn mynd yn uwch ac yn uwch, a dylai’r Prif Weinidog nawr gadarnhau y bydd y bobol hynny sydd wedi colli anwyliaid yn cael yr un parch gan eu llywodraeth yng Nghymru ag mewn rhannau eraill o Brydain.”

Mae Andrew RT Davies hefyd wedi ysgrifennu at y prif weinidog Mark Drakeford yn erfyn arno i newid ei feddwl.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn ystyried cynnig Llywodraeth yr Alban ochr yn ochr â’n hymgysylltiad parhaus â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar fanylion yr ymchwiliad pedair gwlad,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn ceisio ymrwymiad y bydd yr ymchwiliad pedair cenedl yn ymdrin yn gynhwysfawr â gweithredoedd Llywodraeth Cymru a phrofiadau pobol Cymru.”

Pwyso am ymchwiliad Covid-19 annibynnol i Gymru

Jacob Morris

Gyda Chymru bellach ar lefel rhybudd sero, mae yna gryn adlewyrchu ar y modd y bu i’w Llywodraeth ddelio gyda’r pandemig