Mae’r broses o ddewis Dinas Diwylliant nesaf y Deyrnas Unedig wedi cyrraedd y cam nesaf, wedi i’r rhestr hir gael ei chyhoeddi wythnos diwethaf, ac fe fydd sawl ardal yn cael y cyfle i godi eu proffil.
Bydd chwarter y ceisiadau ar gyfer y statws yn 2025 o Gymru, ond dydy pob un ohonyn nhw ddim yn ddinasoedd.
Yn dilyn newid yn rheolau’r dynodiad, bydd ymgeiswyr yn gallu bod yn awdurdodau lleol, a fydd dim rhaid i’r un ohonyn nhw gynnwys dinas.
Mae tair sir yng Nghymru am fanteisio ar y newid rheolau hynny, sef Conwy, Powys a Wrecsam, tra bod y ddau gais arall gan ddinasoedd Bangor a Chasnewydd.
Dinas yn erbyn ardal gyfan?
Ond sut gall ardaloedd gwledig fynd benben ag ardaloedd dinesig yn y gystadleuaeth i gipio’r teitl?
Does dim manylion penodol wedi eu cyhoeddi eto am y ceisiadau a ddaeth i’r fei, ond mae golwg360 wedi bod yn holi unigolion o ddinas Bangor a sir wledig Powys i weld pam fod eu hardaloedd nhw’n haeddu bod yn Ddinas Diwylliant 2025.
Fe gyhoeddodd Cyngor Gwynedd ym mis Gorffennaf fod dinas Bangor yn bwriadu lansio cais ar gyfer y statws.
Mae’r cais yn cwmpasu’r dirwedd llechi cyfagos, sydd newydd dderbyn statws treftadaeth gan UNESCO, a rhai o ardaloedd ehangach Arfon ac Ynys Môn.
Mae Gwynant Roberts, Dirprwy Faer Bangor, a gweddill Cyngor Dinas Bangor wedi rhoi nawdd i’r cais, sydd eto i gael ei ddatblygu’n llawn.
“Mae’r ffaith bod y cais yn cael ei wneud yn y lle cyntaf yn mynd i wneud gwahaniaeth,” meddai wrth golwg360.
“Bydd yn sicr o godi proffil y ddinas fel lle diddorol i fyw, ac yn datblygu’r cyfleusterau sydd yma’n barod.
“Rydyn ni’n agos iawn i’r ardaloedd llechi wrth gwrs, ac roedd Porthladd Penrhyn [ym Mangor] yn ganolog i’r diwydiant hwnnw.
“Mae gennym ni dros 100 o flynyddoedd o hanes addysg yn y ddinas, yn enwedig drwy’r Brifysgol, ac mae yna bobl sy’n adnabyddus drwy’r byd wedi bod yn rhan o hynny.
“Mae’r coleg ym Mangor wedi bod yn gadarnle i hybu’r Gymraeg ers iddi agor, ac mae rhai o academyddion gorau’r genedl wedi bod yn gweithio, dysgu ac addysgu yno.
“Gobeithio y bydd y cais yn atgyfnerthu ac atgyfodi diwylliant Cymraeg yn y ddinas, sydd efallai wedi ei ymylu ychydig yn y degawdau diwethaf.
“Pe bai yna fusnesau a mudiadau diwylliannol yn codi ym Mangor yn dilyn hyn, byddai hynny’n cael effaith dda ar yr economi, achos mae yna linell uniongyrchol rhwng arloesedd diwylliannol ac arloesedd diwydiannol wrth gwrs.”
Angen bod yn ‘wrthbwynt’
Fe wnaeth Cabinet Cyngor Sir Powys benderfynu mynd ati i wneud cais yn fuan cyn i’r rhestr hir gael ei chyhoeddi.
Mae Elwyn Vaughan, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor, wedi crybwyll yr hyn y dylai cais Powys ei flaenoriaethu.
“Fydden i’n awyddus i weld y cais yn adlewyrchiad o gefn gwlad,” meddai wrth golwg360.
“Mae angen dangos y natur gymunedol sydd yma a’r naws Gymreig.
“Hefyd, wrth gwrs, mae angen i’r cais fod yn ddwyieithog, a bod y Gymraeg yn rhan amlwg o’r gweithgareddau.
“Mae’n bwysig nad ydy o’n canolbwyntio ar elfennau trefol yn unig – mae’n rhaid iddo fod yn wrthbwynt mewn ffordd i’r deiliaid sydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mae Powys eisoes yn rhoi pwyslais o ran datblygu economaidd ar ddigwyddiadau diwylliannol – mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Gŵyl y Gelli a’r Sioe Frenhinol eisoes yn digwydd yma, a bydd Eisteddfod yr Urdd yn dod i Fachynlleth yn 2024, felly mae eisiau adeiladu ar gefn hynny.
“Dyna fyddai cyfleon Powys i arddangos ei hun wrth ymgeisio, a beth fydden i’n dymuno ei weld yn y cais llawn.”
Bydd enillydd Dinas Diwylliant 2025 yn cael ei gyhoeddi fis Mai y flwyddyn nesaf.