Mae adroddiad newydd wedi darganfod nad yw heddluoedd bob tro’n defnyddio mesurau diogelu’n effeithiol i amddiffyn menywod a merched.

Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng y Coleg Heddlua, Arolygiaeth Ei Mawrhydi ar gyfer Gwasanaethau’r Heddlu a Thân ac Achub (HMICFRS), a’r Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu yn dangos bod rhai swyddogion yn amddiffyn dioddefwyr.

Fodd bynnag, daethon nhw i’r casgliad fod angen newid y ffordd mae’r heddlu a’r llysoedd sifil a throseddol yn cydlynu eu gwaith fel nad yw gwybodaeth bwysig am achosion treisgar yn cael ei methu.

Fe wnaeth y Ganolfan Cyfiawnder i Fenywod gŵyn yn erbyn yr heddlu, gan arwain at yr adroddiad.

Roedd yr elusen wedi codi pryderon bod lluoedd yng Nghymru a Lloegr yn methu â defnyddio mesurau amddiffyn mewn achosion yn cynnwys trais yn erbyn menywod neu ferched.

Casgliadau

Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod enghreifftiau da o’r heddlu yn defnyddio’r mesurau hyn, a daeth i’r amlwg fod lluoedd sy’n gweithredu ymarfer da yn cael cefnogaeth gan dîm cyfreithiol.

Ond fe ddaeth yr ymchwiliad o hyd i dystiolaeth am ddiffyg dealltwriaeth o fewn lluoedd ynghylch sut a phryd i ddefnyddio neu weithredu mesurau o lefel addas, megis amodau mechnïaeth cyn-cyhuddiad, Hysbysiadau Amddiffyn rhag Trais Domestig, a Gorchmynion Amddiffyn rhag Trais Domestig.

Fe wnaeth hyn arwain at rai menywod a merched yn cael eu niweidio, neu eu gwneud nhw’n llai tebygol o adrodd am drosedd yn y dyfodol.

Roedd hyn yn cynnwys un enghraifft o ddyn meddw’n ffonio’r heddlu yn dweud ei fod ger gartref ei bartner ac angen cael ei arestio.

Fe wnaeth y swyddog ar y ffôn nodi bod y dyn dan amodau mechnïaeth cyn-cyhuddiad, a oedd yn ei atal rhag cysylltu neu ymweld â chyfeiriad ei bartner. Ond ni chafodd hyn ei nodi yn yr adran gywir, felly doedd swyddogion ddim yn ymwybodol o’r amodau.

Cyrhaeddon nhw’r cyfeiriad a gadael heb arestio neb. Cafodd y dyn ei arestio’r diwrnod wedyn ar ôl cael ei ddarganfod yn trio tagu’r ddynes, ac yn dweud ei fod am ei lladd.

Nododd yr adroddiad fod Deddf Heddlua a Throsedd 2017 yn arwain at rai “goblygiadau anffafriol” i ddioddefwyr, a bod mechnïaeth ddim yn cael ei ddefnyddio’n iawn bob tro.

Mae’r ymchwiliad yn gobeithio y bydd y Bil Heddlu arfaethedig newydd yn newid hynny.

Mae’r argymhellion yn cynnwys casglu data yn well er mwyn helpu’r heddlu i benderfynu pa fesurau yw’r rhai mwyaf addas i’w defnyddio mewn gwahanol sefyllfaoedd.

‘Angen ymdrech ar y cyd’

Dywed Zoe Billingham, Arolygydd Heddlu Ei Mawrhydi, fod yr heddlu wedi gwneud “gwelliannau eang” i’r ffordd maen nhw’n ymateb i droseddau dros y degawd diwethaf.

Ychwanega nad yw swyddogion yn ymwybodol o’r pwerau sydd ganddyn nhw weithiau, neu fod y prosesau’n ddryslyd, sy’n arwain at fenywod a merched yn cael eu niweidio.

“Rydyn ni’n diolch i’r Ganolfan Cyfiawnder i Fenywod am yr arch-gŵyn (supercomplaint) hwn,” meddai.

“Yn y pen draw, dyw gwneud yn siŵr bod menywod a merched yn cael eu hamddiffyn yn gywir ddim yn fater i’r heddlu ar eu pennau eu hunain.

“Mae angen ymdrech ar y cyd rhwng yr heddlu, y llywodraeth, y system gyfiawnder droseddol a sefydliadau cefnogi dioddefwyr ar frys fel nad yw dioddefwyr yn cael eu methu.”

‘Ddim yn mynd ddigon pell’

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywed Nogah Ofer, cyfreithiwr ar ran y Ganolfan Cyfiawnder i Fenywod, na fydd “pasio mwy fyth o ddeddfwriaethau yn newid profiadau menywod os nad yw’r pwerau’n cael eu defnyddio”.

“Mae’r argymhellion i’r arch-gŵyn yn cael eu croesawu, fodd bynnag, dydyn nhw ddim yn mynd i’r afael â difrifoldeb y sefyllfa nag yn mynd ddigon pell i sicrhau bod lluoedd heddlu yn gwneud newidiadau gwirioneddol wrth weithio,” meddai.

“Mae rhai o’r argymhellion yn gofyn am gasglu data yn well a dweud wrth brif gwnstabliaid mewn termau cyffredinol i flaenoriaethu a monitro’r defnydd o orchmynion, ond mae yna ddiffyg manylion a does dim trafodaeth am beidio cael digon o adnoddau, sef y mater amlwg sydd angen ei drafod.

“Rydyn ni’n ofni na fydd y sefyllfa lawer gwahanol i heddiw ymhen pum mlynedd.”