Mae dadansoddiadau newydd yn awgrymu y gallai cyfraddau diweithdra yng Nghymru godi i oddeutu 6% neu’n uwch erbyn 2023.

Yn ôl dadansoddiadau rhanbarthol newydd gan Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Economaidd a Chymdeithas (NIERS), mae’r rhagolygon yn dangos y bydd y cyfraddau’n codi’n sydyn.

Dros y Deyrnas Unedig, mae’n debyg mai 5.2% fydd y gyfradd ddiweithdra gyfartalog erbyn 2023.

Ar y cyd â diweithdra, mae’r cyfraniad tuag at y gweithlu dan bwysau hefyd.

Canfyddiadau

Mae disgwyl i Gymru weld cynnydd sydyn mewn segurdod economaidd drwy gydol y cyfnod hyd at 2023, gyda disgwyl i gyfraddau segurdod godi i dros 40% yn y cyfnod hwn.

Mae hynny’n cymharu â’r 37% sydd wedi’i ragweld ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd.

Yn ôl NIERS, bydd yr adfer economaidd wedi Covid yn amrywio rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r rhagolygon yn dangos bod disgwyl i Gymru ddal i fyny, bron iawn, â lefelau eu hallbwn economaidd fel ag yr oedd cyn y pandemig erbyn diwedd 2024.

Mae hynny flwyddyn ar ôl Lloegr a’r Alban, a thipyn yn is na thueddiadau cyn y pandemig, a bydd lefelau cynhyrchiant yn dal yn isel.

Mae incymau, prynwriaeth a chynilion yn amrywio dros y Deyrnas Unedig hefyd ond ar y cyfan, mae disgwyl i’r cynnydd yn y gymhareb gynilion a fu yn ystod y cyfnodau clo barhau.

Allan o’r pedair gwlad, mae’n debyg mai Cymru fydd â’r gyfran isaf o gyflogau a phensiynau fel incwm a’r gyfradd gynilo fwyaf.

‘Taro rhannau tlotaf cymdeithas’

“Bydd y cynnydd sydyn mewn diweithdra a segurdod [economaidd] yn taro rhai o rannau tlotaf cymdeithas Cymru waethaf,” meddai’r Athro Arnab Bhattacharjee, cyd-awdur yr adroddiad.

“Rydyn ni’n awgrymu cymorth llesiant parhaus, gyda Chredyd Cynhwysol uwch yn parhau am hirach.

“Yn ogystal, rhaid i adfywio rhanbarthol gael ei gefnogi drwy gyfeirio cynilion uwch tuag at fuddsoddiadau mewn isadeiledd, sgiliau a swyddi da a gwyrdd.”

“Meddwl yn ofalus”

“Tra bod economi Cymru wedi’i tharo’n llai caled gan y pandemig na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig mewn rhai ffyrdd, mae rhagolygon NIERS yn awgrymu y bydd adfer yn arafach i Gymru,” meddai Huw Dixon, Arweinydd Ymchwil NIERS ar gyfer Dadansoddi Economaidd ac Athro Economaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Bydd hyn yn achosi her sylweddol i Lywodraeth Cymru a bydd yn galw am feddwl yn ofalus ynghylch sut i gyflymu’r adferiad.”