Mae nifer y marwolaethau ychwanegol a gafodd eu cofrestru bob wythnos yng Nghymru a Lloegr wedi codi i’w lefel uchaf ers bron i chwe mis.

Marwolaethau ychwanegol, sy’n cael eu galw’n “farwolaethau gormodol”, yw nifer y marwolaethau sy’n uwch na’r cyfartaledd ar gyfer y cyfnod cyfatebol ym mlynyddoedd nad ydyn nhw yn rhai pandemig, 2015-19.

Cafodd cyfanswm o 10,372 o farwolaethau yng Nghymru a Lloegr eu cofrestru yn yr wythnos a ddaeth i ben ar Awst 13, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hyn 14% yn uwch na’r cyfartaledd pum mlynedd, neu 1,270 yn fwy o farwolaethau.

Dydy marwolaethau gormodol ddim wedi bod mor uchel ers yr wythnos a ddaeth i ben ar Chwefror 19, pan gafodd 2,182 o farwolaethau ychwanegol eu cofrestru, sydd 18.8% yn uwch na’r cyfartaledd pum mlynedd.

Mae modd egluro rhywfaint o’r cynnydd mewn marwolaethau ychwanegol gan y cynnydd diweddar yn nifer y marwolaethau sy’n ymwneud â Covid-19, ac mae pob un ohonyn nhw yn cael eu hystyried yn farwolaethau gormodol.

Roedd cyfanswm o 571 o farwolaethau a gafodd eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr yn yr wythnos a ddaeth i ben ar Awst 13 yn crybwyll Covid-19 ar y dystysgrif farwolaeth.

Roedd hyn i fyny 8% ers yr wythnos flaenorol a dyma’r cyfanswm uchaf ers 719 o farwolaethau yn yr wythnos hyd at Fawrth 26.

Ond dydy marwolaethau Covid-19 ddim yn cyfrif am y rhan fwyaf o farwolaethau ychwanegol, sy’n awgrymu bod llawer mwy o bobol nag arfer yn marw o achosion eraill – tuedd sydd wedi bod yn amlwg ers wythnosau cynnar y pandemig.

Dadansoddiad

Dywedodd Kevin McConway, athro ystadegau cymhwysol yn y Brifysgol Agored, fod y ffigyrau diweddaraf yn dangos “bron i 700 o farwolaethau ychwanegol heb eu cyfrif” yn yr wythnos hyd at Awst 13, ar wahân i farwolaethau yn ymwneud â Covid-19.

“Nid yw’n bosibl dweud beth sy’n achosi’r marwolaethau ychwanegol hyn mewn gwirionedd, oherwydd nid oes gennym ddata eto ar achosion marwolaeth dan sylw,” meddai.

“Mewn wythnosau blaenorol, roedd yn amlwg bod y tywydd poeth iawn yng nghanol mis Gorffennaf yn cael dylanwad, ond nid yw’r tywydd wedi bod yn arbennig o boeth ers hynny.

“Byddwn yn cael gwybod yn y pen draw pryd y gall y Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi data manylach.”

Mae nifer y marwolaethau ychwanegol mewn cartrefi preifat yng Nghymru a Lloegr ers dechrau’r pandemig bellach yn 66,941.

O’r nifer hwn, dim ond 8,152, neu 12%, oedd yn farwolaethau a oedd yn ymwneud â Covid-19.