Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Abertawe ddydd Sadwrn (Awst 21).

Fe ddigwyddodd ar y B4603, Ffordd Ynysmeudwy am oddeutu 9:05yb.

Mae dyn 23 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl y gwrthdrawiad rhwng Renault Twingo glas a Citreon C1 oren.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a allai fod â fideo CCTV neu dash-cam o’r digwyddiad, i gysylltu â Heddlu’r De gyda’r cyfeirnod *294283.

Mae’r heddlu’n diolch i drigolion lleol am eu dealltwriaeth a’u hamynedd yn ystod y cyfnod hwn.