Mae’r Deyrnas Unedig wedi cludo dros 8,400 o bobol o Affganistan fel rhan o ymgyrch a ddechreuodd lai na phythefnos yn ôl.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) fod ‘Ymgyrch Pitting’, yr ymdrech filwrol a ddechreuodd ar 13 Awst, wedi cludo 8,458 o bobol o Kabul hyd yma.
Roedd hyn yn cynnwys pobol yn gadael prifddinas Affghanistan mewn naw awyren filwrol dros gyfnod o 24 awr.
Roedd y rhai gafodd eu cludo oddi yno yn cynnwys staff llysgenhadaeth y Deyrnas Unedig, dinasyddion Prydeinig, y rhai sy’n gymwys o dan raglen Polisi Adleoli a Chymorth Affghanistan (Arap) a nifer o ddinasyddion o wledydd sy’n bartneriaid i’r Deyrnas Unedig.
Hyd yn hyn, mae cyfanswm o 5,171 o bobol wedi gwneud ceisiadau o dan Bolisi Adleoli a Chymorth Affghanistan.
Mae dros 1,000 o staff lluoedd arfog y Deyrnas Unedig wedi bod yn rhan o’r ymgyrch yn Kabul.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y bydd y broses o gludo pobol o’r wlad yn parhau cyn belled â bod y sefyllfa o ran diogelwch yn caniatáu, mewn cydweithrediad â’r Unol Daleithiau.
Nid oes dyddiad pendant wedi’i bennu eto ar gyfer dod a’r teithiau i gludo pobl o’r wlad i ben, ychwanegodd.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod y Lluoedd Arfog wedi parhau i hedfan a dosbarthu cymorth i gefnogi dinasyddion y Deyrnas Unedig ac Afghanistan sy’n mynd drwy’r broses o adael y wlad, gan gynnwys darparu dŵr a llaeth i fabanod, blancedi a llyfrau lliwio.
Mae disgwyl i arweinwyr G7 gyfarfod heddiw (ddydd Mawrth, 24 Awst) i drafod y sefyllfa yn Afghanistan.
Cyn y cyfarfod rhithiol, roedd y Prif Weinidog Boris Johnson wedi rhoi addewid i wneud popeth posib i ddiogelu hawliau dynol yn y wlad, ar ôl i’r Taliban gymryd grym yno.
Mae disgwyl iddo bwyso ar yr Unol Daleithiau i barhau i gadw ei lluoedd yn y wlad y tu hwnt i 31 Awst er mwyn caniatáu rhagor o amser i gludo pobl o Affganistan.
Mewn datganiad cyn y cyfarfod, dywedodd Boris Johnson: “Ein blaenoriaeth gyntaf yw cwblhau’r broses o gludo ein dinasyddion a’r rhai hynny sydd wedi cynorthwyo ein hymdrechion dros yr 20 mlynedd diwethaf allan o’r wlad – ond wrth inni edrych ymlaen at y cam nesaf, mae’n hanfodol ein bod yn dod at ein gilydd fel cymuned ryngwladol ac yn cytuno ar ddull ar y cyd yn y tymor hir.”