Fe fydd Boris Johnson yn cadeirio cyfarfod brys o wledydd yr G7 yn ddiweddarach i gydlynu’r ymateb i’r argyfwng yn Affganistan wrth i’r ymdrech barhau i gludo pobl o’r wlad.

Cyn y cyfarfod rhithiol, roedd Y Prif Weinidog wedi rhoi addewid i wneud popeth posib i ddiogelu hawliau dynol yn y wlad, ar ôl i’r Taliban gymryd grym yno.

Mae disgwyl iddo bwyso ar yr Unol Daleithiau i barhau i gadw ei lluoedd yn y wlad y tu hwnt i 31 Awst er mwyn caniatáu rhagor o amser i gludo pobl o Affganistan.

Yn ôl Downing Street roedd Boris Johnson a’r Arlywydd Joe Biden wedi siarad gyda’i gilydd ddydd Llun (23 Awst) cyn y cyfarfod gydag arweinwyr yr G7.

“Mae’r arweinwyr wedi cytuno i weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y rhai sy’n gymwys i adael yn gallu gwneud hynny,” meddai Downing Street.

Cydlynu ymateb 

Mewn datganiad cyn y cyfarfod heddiw (dydd Mawrth, 24 Awst) dywedodd Boris Johnson: “Ein blaenoriaeth gyntaf yw cwblhau’r broses o gludo ein dinasyddion a’r rhai hynny sydd wedi cynorthwyo ein hymdrechion dros yr 20 mlynedd diwethaf allan o’r wlad – ond wrth inni edrych ymlaen at y cam nesaf, mae’n hanfodol ein bod yn dod at ein gilydd fel cymuned ryngwladol ac yn cytuno ar ddull ar y cyd yn y tymor hir.

“Dyna pam rwyf wedi galw cyfarfod brys o’r G7 – i gydlynu ein hymateb i’r argyfwng, i ailddatgan ein hymrwymiad i bobl Affganistan, ac i ofyn i’n partneriaid rhyngwladol i ymuno’r a’r DU ac ymrwymo i gefnogi’r rhai mewn angen.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Taliban ddydd Llun y byddai unrhyw ymgais filwrol i barhau i symud pobl o Affganistan y tu hwnt i 31 Awst yn “pryfocio ymateb”.

Roedd yr Arlywydd Biden wedi awgrymu ddydd Sul nad oedd am i luoedd arfog yr Unol Daleithiau aros yn y wlad ar ôl mis Awst ond ychwanegodd: “Y gobaith ydy na fyddan ni’n gorfod ymestyn [y cyfnod] ond mae trafodaethau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd.”

Ond mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace wedi dweud ei bod yn “annhebygol” y bydd Joe Biden yn ymestyn y dyddiad tan ar ôl ddiwedd y mis.

Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn bod dros 8,500 o bobl wedi cael eu cludo o Affganistan ers 13 Awst.