Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol o £3.7mi ddarparu 100 Swyddog Cymorth Cymunedol arall i’r Heddlu ledled Cymru er mwyn mynd i’r afael â throseddau a chefnogi cymunedau.
Daw hyn â chyfanswm y gyllideb i dros £22m.
Mae’r 100 swyddog ychwanegol yn creu cyfanswm o 600 o swyddogion. Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd hwn yn gam arall ymlaen tuag at ddiogelu cymunedau’r wlad, gydag adnoddau ar waith i leihau achosion o droseddu.
“Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi darparu cysylltiad hanfodol rhwng y cymdogaethau a gwasanaethau’r heddlu ac maent yn cael eu cydnabod am eu parodrwydd i ddod yn rhan o’u cymunedau,” meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford
“Maent wedi chwarae rhan hanfodol wrth ymateb i’r pandemig a hoffwn ddiolch iddynt am eu hymrwymiad.
“Mae’r Swyddogion hyn wedi parhau i wneud eu gorau, gan ddarparu cymorth a datblygu ffyrdd arloesol o ddiogelu eu cymunedau.”
“Ennyn hyder”
Ychwanegodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael: “Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn ceisio gwneud ein cymunedau yn llefydd mwy diogel a chadarn ac mae eu presenoldeb amlwg yn helpu i ennyn hyder.
“Dyna pam rwyf wrth fy modd bod Gweinidogion Cymru wedi mynd ati mor gyflym i weithredu eu hymrwymiad yn eu maniffesto i sicrhau 100 o Swyddogion ychwanegol ledled Cymru, ar ben y 500 y maent eisoes yn eu hariannu.
“Mae eu hymrwymiad ariannol yn galluogi’r pedwar heddlu yng Nghymru i fwrw ymlaen â’r gwaith recriwtio, gan adfer a chryfhau’r adnodd rheng flaen pwysig hwn ym mhob un o’n cymunedau.
“Drwy hyn bydd modd mynd i’r afael â materion sy’n cystadlu â’i gilydd, fel troseddau treisgar, cam-fanteisio cysylltiedig â chyffuriau, cam-drin a thrais domestig a throseddau ar y rhyngrwyd.”