Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cronfa Cymorth Dewisol yn parhau, gan rybuddio am “storm berffaith o ansicrwydd ariannol”.

Dywed llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Sioned Williams AoS, y byddai torri’r Gronfa Cymorth Dewisol yn gadael miloedd o deuluoedd mewn sefyllfa ariannol fregus.

Y Gronfa Cymorth Dewisol yw cynllun cymorth lles cenedlaethol Cymru ac mae’n darparu grant arian bach ar gyfer costau byw hanfodol, a chefnogaeth i ganiatáu i rywun fyw’n annibynnol.

Newidiwyd y cynllun ar ddechrau’r pandemig i ganiatáu i fwy o bobol hawlio cymorth ariannol os oeddent yn wynebu caledi eithriadol o ganlyniad i gyfyngiadau clo, hunan-ynysu neu golli incwm oherwydd cyfyngiadau.

Mae bron i 220,000 o grantiau arian parod bach sy’n gysylltiedig â Covid-19 ar gyfer costau byw hanfodol wedi’u gwneud trwy’r cynllun ers mis Mawrth 2020.

“Hanfodol”

Dywed Sioned Williams fod y Gronfa Cymorth Dewisol yn “ffynhonnell gymorth hanfodol” i filoedd o deuluoedd ac anogodd Lywodraeth Cymru i barhau gyda’r hyblygrwydd ychwanegol ar gyfer cyrchu’r gronfa y tu hwnt i ddiwedd mis Medi.

“Mae ffyrlo yn dod i ben. Mae biliau cartrefi yn codi. Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dorri o £20 yr wythnos,” meddai.

“Mae teuluoedd incwm isel yn wynebu’r storm berffaith y gaeaf hwn o ansicrwydd ariannol ac yn cael eu gwthio ymhellach i dlodi.

“Mewn tirwedd economaidd mor llwm, a chyda Chymru heb y pŵer ar hyn o bryd, i sicrhau system les decach, fwy trugarog na’r hyn a gynigir gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan, mae’r gronfa cymorth dewisol yn ffynhonnell gymorth hanfodol i filoedd o deuluoedd.

“Er bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi swm ychwanegol o arian yn y Gronfa Cymorth Dewisol ac wedi gwneud meini prawf cymhwysedd ar gyfer cyrchu’r gefnogaeth yn fwy hyblyg mewn ymateb i argyfwng Covid, mae disgwyl i’r hyblygrwydd ychwanegol hwn ddod i ben ym mis Medi.

“Mae hyn yn peri pryder mawr, o ystyried y bydd pobl yn parhau i wynebu caledi ariannol ac argyfwng ar ôl y dyddiad hwn, ac y mae’r Gronfa Cymorth Dewisol wedi darparu cefnogaeth hanfodol iddynt yn ystod cyfnod mor eithriadol o anodd.

“Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i barhau â’r hyblygrwydd ychwanegol ar gyfer cyrchu’r Gronfa Cymorth Dewisol by tu hwnt i ddiwedd mis Medi i sicrhau bod y rhai sydd angen y gefnogaeth hon yn gallu ei gyrchu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag tlodi a chaledi pellach.”