Mae arweinwyr y sector manwerthu wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno camau pellach i amddiffyn staff siopau.

Bydd gweithwyr siopau yn yr Alban yn cael eu hamddiffyn yn well o heddiw (24 Awst) ymlaen, pan fydd deddf Amddiffyn Gweithwyr newydd yn dod i rym.

Dan y gyfraith newydd, bydd ymosod neu gam-drin staff manwerthu yn drosedd ar ei phen ei hun, gyda dedfryd lymach.

Mae rheolwyr yn y sector wedi galw am reolau tebyg ar gyfer gweddill y Deyrnas Unedig ar ôl cynnydd mewn troseddau manwerthu yn y blynyddoedd diwethaf.

Fis diwethaf, fe wnaeth 100 o fanwerthwyr mwyaf y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Tesco, Sainsbury’s a Primark, alw ar y Prif Weinodog Boris Johnson i weithredu er mwyn mynd i’r afael â’r mater.

Camdriniaeth

Mae’r undeb manwerthu Usdaw wedi lansio ymgyrch “Rhyddid rhag Ofn” yr wythnos hon, ac mae eu harolwg blynyddol yn dangos bod 92% o weithwyr dros y Deyrnas Unedig wedi profi camdriniaeth eiriol yn y gwaith dros y 12 mis diwethaf.

Dangosa’r ymchwil, lle cafodd 2,000 o weithwyr eu holi, fod 70% ohonyn nhw wedi cael eu bygwth wrth weithio, a bod 14% wedi dioddef ymosodiad.

Ni wnaeth un ymhob pump ddweud wrth eu cyflogwr am y digwyddiad, gan gynnwys 5% o’r rhai oedd wedi dioddef ymosodiad.

Roedd yr arolwg yn casglu sylwadau gan weithwyr, a dywedodd un o ganolbarth Cymru eu bod nhw wedi cael eu “hyrddio gan droliau ar bwrpas sawl gwaith”, ac wedi cael “cwsmeriaid yn trio eu bwlio neu eu dychryn wrth ofyn iddyn nhw ddilyn canllawiau Covid”.

Nododd un arall o’r gogledd eu bod nhw wedi derbyn “camdriniaeth eiriol gan gwsmeriaid, pobol yn bod yn ddigywilydd ac un ymosodiad corfforol”.

“Ychydig o flynyddoedd yn ôl dioddefais ladrad gyda rhywun yn dal cyllell ata i ac aelod arall o staff. Diwrnod gwaethaf fy mywyd ac mae’r atgofion yn dal i ddod yn ôl,” meddai.

Dywedodd un yn y gorllewin ei bod hi wedi dioddef “camdriniaeth eiriol yn aml gan gwsmeriaid, o sarhad i fygythiadau o drais”.

“Aflonyddu rhywiol gan gwsmeriaid gwrywaidd, sylwadau anaddas,” ychwanegodd.

“Gan fy mod i’n fyddar, mae cwsmeriaid yn dweud na ddylwn i fod yn gweithio.”

“Digon yw digon”

“Mae’n dorcalonnus clywed y dystiolaeth hon gan weithwyr siopau yng Nghymru sy’n haeddu dipyn mwy o barch na maen nhw’n ei dderbyn,” meddai Paddy Lillis, Ysgrifennydd Cyffredinol Usdaw.

“Mae canlyniadau ein harolwg diweddaraf yn dangos graddfa’r trais, bygythiadau a chamdriniaeth ofnadwy sy’n wynebu gweithwyr siopau ac yn dangos yr angen am gyfraith ‘amddiffyn gweithwyr siopau’.

“Heddiw mae deddf amddiffyn gweithwyr yn dod i rym yn yr Alban, ond rydyn ni’n hynod siomedig bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi parhau i wrthod mesur tebyg yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.

“Mae hyn yn fater hynod bwysig i’n haelodau. Maen nhw’n poeni y bydd y lefelau uchel presennol o gamdriniaeth yn dod yn norm, oni bai bod y Llywodraeth yn gweithredu ar frys ac yn ystyrlon.”

Fel Consortiwm Manwerthu Prydain, mae Usdaw yn galw ar Dŷ’r Arglwyddi i fynnu deddf debyg i’r Alban pan fydd y Bil Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd yn mynd drwy ei ail ddarlleniad fis nesaf.

“Mae gweithwyr siopau yn dweud yn glir mai digon yw digon,” meddai Paddy Lillis.

“Mae’r Llywodraeth wedi addo diwygiad i’w bil heddlua arfaethedig yn Nhŷ’r Arglwyddi, ac rydyn ni’n eu hannog nhw i gadw at eu gair.”